Â鶹ԼÅÄ

Brexit: Pryder am niferoedd myfyrwyr tramor yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
GraddioFfynhonnell y llun, PA

Mae un o brifysgolion Cymru wedi dweud bod dros 100 o ddarpar fyfyrwyr tramor eisoes wedi penderfynu peidio â dilyn cyrsiau yno o fis Medi ymlaen yn sgil canlyniad y refferendwm ar aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd is-ganghellor dros dro Prifysgol Aberystwyth, yr Athro John Grattan bod 50 o fyfyrwyr o wledydd Ewropeaidd wedi cysylltu y diwrnod wedi'r bleidlais i dynnu ceisiadau yn ôl, gan gyfeirio at Brexit fel y rheswm.

Mae prifysgolion eraill wedi dweud bod "ansicrwydd" ynglŷn â'r dyfodol yn anochel.

Mae Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru wedi dweud bod croeso i fyfyrwyr a staff o wledydd yr UE yng Nghymru.

Ond mae Aelod Cynulliad UKIP, Nathan Gill, wedi dweud nad ddylai'r prifysgolion boeni petai gostyngiad yn nifer y myfyrwyr sydd yn dod o'r Undeb Ewropeaidd, gan eu bod nhw'n debygol o dalu ffioedd uwch yn y dyfodol.

'Effaith anferth'

"Wnâi ddim cuddio'r ffaith bod Brexit yn her fawr i'n prifysgol ni," meddai John Grattan yn ystod un o seremonïau graddio'r brifysgol yr wythnos hon.

"Mae dros 100 o fyfyrwyr Ewropeaidd wedi tynnu'u ceisiadau nôl i astudio gyda ni eisoes, 50 ohonynt ar y dydd Gwener yn dilyn diwrnod Brexit.

"Mae hynny'n cael effaith anferth ar ein cyllid ni, mae 120,000 o fyfyrwyr Ewropeaidd yn astudio ym mhrifysgolion Prydain."

Mae rhai o brifysgolion eraill Cymru hefyd wedi dweud wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw y gallai ansicrwydd yn dilyn y penderfyniad i adael yr UE effeithio ar niferoedd myfyrwyr yn ogystal â chyllid.

I lawer o brifysgolion mae myfyrwyr rhyngwladol yn rhan sylweddol o'u hincwm, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn talu rhwng £10,000 a £15,000 y flwyddyn mewn ffioedd dysgu.

Ond mae Llywodraeth Cymru'n darparu grantiau i fyfyrwyr o'r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd, sy'n golygu mai dim ond £3,900 y flwyddyn - yr un lefel â myfyrwyr o Gymru - sydd yn rhaid iddyn nhw ei dalu er mwyn astudio yng Nghymru.

'Effeithio ar bawb'

Roedd gan Brifysgol Aberystwyth 9,800 o fyfyrwyr yn ystod blwyddyn academaidd 2014/15, gyda 800 ohonynt yn dod o wledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd, a 600 o du hwnt i'r UE.

Ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf yn 2016/17 mae disgwyl i fyfyrwyr o Ewrop dalu £9,000 y flwyddyn mewn ffioedd dysgu am gyrsiau israddedig, tra bod y rheiny o du hwnt i'r UE yn talu rhwng £13,000 a £14,500.

"Yn anffodus, mae adroddiadau newyddion dramor yn arwain at erthyglau sy'n lledaenu'r neges nad oes croeso bellach i ddinasyddion yr UE ym Mhrydain," meddai llefarydd ar ran Prifysgol Aberystwyth.

"O ganlyniad i hyn mae holl brifysgolion Prydain yn dweud bod y darpar-fyfyrwyr a oedd wedi derbyn cynigion yn gadarn bellach yn tynnu'n ôl, ac nid ydym ni'n eithriad yn hyn o beth."

Ychwanegodd y brifysgol eu bod wedi cysylltu â'u holl ddarpar fyfyrwyr o'r Undeb Ewropeaidd er mwyn eu sicrhau na fyddai unrhyw drefniadau yn newid am y tro, ond bod "ansicrwydd" ynglŷn â'r dyfodol yn anochel.

"Ni fydd canlyniad y refferendwm yn effeithio ar weledigaeth y brifysgol i fod yn brifysgol berthnasol, eithriadol ag iddi feddylfryd rhyngwladol," ychwanegodd y llefarydd.

Tawelu meddyliau

Dywedodd prifysgolion Bangor, Caerdydd, De Cymru a Met Caerdydd wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw nad oedden nhw'n gallu cadarnhau eto faint o fyfyrwyr oedd wedi penderfynu peidio â dilyn eu cyrsiau o fis Medi ymlaen oherwydd Brexit.

Ond roedd rhai eisoes wedi cysylltu â'r darpar fyfyrwyr hynny, gan gydnabod fod rhai ohonynt wedi mynegi pryderon am y refferendwm.

"Rydym yn gweithio i dawelu meddyliau'r myfyrwyr sydd yn dechrau gyda ni ym mis Medi ac wedi bod mewn cysylltiad â nhw er mwyn cynnig sicrwydd iddynt na fydd unrhyw newidiadau i ffioedd na benthyciadau myfyrwyr," meddai llefarydd ar ran Prifysgol De Cymru.

Ychwanegodd Prifysgol Bangor fod ansicrwydd ynglÅ·n ag effaith Brexit am effeithio ar "nifer o bethau gwahanol gan gynnwys symudiadau myfyrwyr a chyllid" ond na fyddai "statws mewnfudo a statws ffioedd cysylltiedig" yn newid hyd nes y bydd Prydain wedi gadael yr UE yn ffurfiol.

Dywedodd Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Glyndŵr fodd bynnag nad oedd unrhyw ddarpar fyfyrwyr wedi penderfynu peidio â dilyn cyrsiau gyda nhw eto yn sgil Brexit.

'Goddefgar a diogel'

Pwysleisiodd Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams, y byddai prifysgolion Cymru'n gwneud eu gorau i recriwtio myfyrwyr o bob cwr o'r byd er gwaethaf y pryderon ynglŷn â gadael Ewrop.

"Rydw i am ddweud yn gwbl glir a chadarn bod croeso i fyfyrwyr a staff o wledydd ledled yr Undeb Ewropeaidd o hyd ym Mhrifysgolion Cymru," meddai Aelod Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol dros Frycheiniog a Maesyfed.

"Mae'r traddodiad hir a balch o dderbyn myfyrwyr o Ewrop i Gymru wedi ein helpu ni i feithrin perthynas â nifer o wledydd.

"Mae gan filoedd o bobl le arbennig yn eu calonnau i Gymru ar ôl bod yma yn astudio. Bydd ein gwlad yn parhau i fod yn lle goddefgar a diogel a fydd yn barod i dderbyn pobl o unrhyw genedl i ddilyn eu huchelgais academaidd."

'Gwell i'r prifysgolion'

Yn ôl Aelod Cynulliad UKIP Nathan Gill fodd bynnag, gallai lleihau'r nifer o fyfyrwyr o wledydd yr Undeb Ewropeaidd fod yn hwb i brifysgolion Cymru yn yr hir dymor.

"Dydyn ni heb adael yr Undeb Ewropeaidd eto, dydyn ni ddim hyd yn oed wedi datgan Erthygl 50 eto, ar hyn o bryd mae popeth yn union fel yr oedd o, does dim gwahaniaeth a yw myfyrwyr yn dod o'r UE neu o Brydain," meddai Mr Gill.

"Unwaith y byddwn ni wedi cynnal trafodaethau Brexit, un peth fydd yn newid yw y bydd yn rhaid i fyfyrwyr o'r Undeb Ewropeaidd dalu'r ffioedd dysgu rhyngwladol llawn yn hytrach na chael cymhorthdaliadau oddi wrth drethdalwyr. Bydd hyn yn well i brifysgolion Cymru a Phrydain.

"Efallai y bydd hynny'n golygu llai o fyfyrwyr [rhyngwladol], ond fe fyddan nhw'n talu mwy o arian, ac fe fydd hynny'n well i'r prifysgolion. Bydd hefyd mwy o lefydd ar gael i bobol o Gymru a Phrydain."