Y Gymraeg tu fas i'r dosbarth

Mae 'na dwf mawr wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf yn nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg. Ond sut mae annog disgyblion i ddefnyddio'r iaith tu hwnt i'r ysgol?

Daeth staff a rhai o ddisgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf yng Nghaerdydd at ei gilydd yn ddiweddar i geisio mynd i'r afael â'r sefyllfa, sy'n gyffredin mewn sawl ardal o Gymru.

Oherwydd y pryder am ddylanwad y Saesneg ar ddiwylliant pobl ifanc, mae'r ysgol wedi creu cynllun 'Byw yn Gymraeg' i annog disgyblion i siarad Cymraeg y tu allan i'r dosbarth a chynnal gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth o fanteision siarad yr iaith. Y disgyblion eu hunain fydd yn arwain y cynllun.

Bydd pwyllgor yn cael ei sefydlu i arwain y fenter pan fydd y tymor newydd yn dechrau ym mis Medi, ond bydd y cynllun yn dechrau'n swyddogol ddydd Gwener 15 Gorffennaf pan fydd y Candelas a Cadno yn perfformio mewn gig yn yr ysgol.

Disgrifiad o'r fideo, Gig Cadno a Candelas yn Ysgol Glantaf fel rhan o daith Maes B ac C2 Radio Cymru

Mae Bethan Walking, athrawes yn Ysgol Glantaf, yn cydnabod bod ceisio annog disgyblion i siarad Cymraeg y tu hwnt i goridorau'r ysgol wedi bod yn dalcen caled erioed.

"Mae wastad wedi bod yn broblem, ond mae'n anodd dweud pam bod llai o ddisgyblion yn siarad Cymraeg tu allan i'r dosbarth erbyn hyn, dyna pam rydyn ni eisiau gofyn iddyn nhw," meddai.

"Ry'n ni eisiau gwybod fel rhan o 'Byw yn Gymraeg' beth mae pobl ifanc yn ei wneud gyda'r nos a thu allan i'r ysgol.

Disgrifiad o'r llun, Canu'n y Gymraeg: Cadno, y band sy'n cynnwys cyn-ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf

"Dydy pobl ifanc ddim yn gwylio cymaint o deledu - maen nhw'n gwylio ar y we. Felly rydyn ni eisiau edrych i weld beth fedrwn ni ei wneud ar y cyfryngau hynny, i gyflwyno'r Gymraeg i'w bywydau.

"Ym mis Medi rydyn ni'n lansio pwyllgor BYG, Byw yn Gymraeg, gyda chynrychiolaeth o ddisgyblion o bob blwyddyn ysgol yn cyd-weithio gydag athrawon. Byddwn ni'n cynnal gweithgareddau ac hefyd yn gwobrwyo disgyblion am siarad Cymraeg y tu allan i'r dosbarth."

Cysylltu ar-lein

Mae Bethan Walking hefyd yn awgrymu bod agweddau'r disgyblion sy'n siarad Cymraeg yn yr ysgol hefyd wedi newid oherwydd datblygiad y gwefannau cymdeithasol.

"Efallai, yn y gorffennol, bod y disgyblion oedd yn siarad Cymraeg yn arfer protestio fwy am y rhai oedd ddim yn siarad Cymraeg," ychwanegodd. "Ond oherwydd cyfryngau cymdeithasol, mae'r disgyblion hynny sydd â ffrindiau o ysgolion eraill sy'n siarad Cymraeg, yn cadw mewn cysylltiad ar Facebook, Twitter ac yn y blaen.

"Dydy hi ddim yn anodd iddyn nhw gysylltu gyda phobl yn y Gymraeg erbyn hyn."

Mae'r ysgol wedi gofyn i gyn-ddisgyblion i gyfrannu i fideo arbennig, trwy recordio neges i ddisgyblion yr ysgol, gan bwysleisio sut bod yr iaith yn bwysig i'w bywydau, a bod hynny wedi cychwyn iddyn nhw yng Nglantaf.

"Rydyn ni am ddangos fod pobl aeth i'r ysgol yn dal i ddefnyddo'r Gymraeg hyd heddiw, fod yr iaith yn ddefnyddiol," meddai Bethan Walking.

"R'yn ni weld cael ymateb gan Beca Lyne-Pirkis, Ioan Gruffudd a Rhys Patchell hyd yn hyn, ond rydyn ni hefyd am glywed gan gyn-ddisgyblion eraill, o bob maes, sy'n defnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.

"Ein nod yw ffeindio mas beth mae pobl ifanc yn ei wneud tu fas i'r ysgol, ymhle maen nhw'n gwylio a chyfathrebu, a ffeindio ffyrdd o gyflwyno'r Gymraeg iddyn nhw yno. "

Disgrifiad o'r llun, Ioan Gruffudd, un o'r cyn-ddisgyblion, sy'n cefnogi menter newydd Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf