Ateb y Galw: Ani Saunders

Ffynhonnell y llun, AFP

Y gantores a'r arlunydd Ani Saunders sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos hon ar ôl iddi hi gael ei henwebu gan Rhys Mwyn.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Ca'l row yn dair oed am drial rhedeg bant (eto). O'n i wastad yn rhedeg bobman, o'dd rhaid i mi wisgo ffrwynau am flynyddoedd!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Justin Timberlake!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Does dim wedi codi cymaint o gywilydd arnai o'i gymharu â chanlyniad y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd. Er, mi oedd canlyniad Caerdydd yn gysur.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Bore Gwener ar ôl canlyniad y refferendwm.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd wedi digalonni Ani

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

'Dyw e ddim yn "rock and roll" ond falle mynd i'r gwely yn rhy ddiweddar. Dwi'n caru cysgu ond ddim yn neud e digon.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Caerdydd, er bod ganddi ei phroblemau dwi'n falch o fy ninas. Dwi'n byw yn "milltir sgwâr y byd" yn Grangetown sy'n gymuned agos, llawn bywyd, cyffro a chymeriadau.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Roedd gweld Paul McCartney yn Glastonbury yn 2004 yn brofiad anghygoel. Roedd yr holl benwythnos yn ffantastig a dweud y gwir... o be' dwi'n gofio!

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Gweithgar, chwilfrydig, positif.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Dim dilledyn ond mae gen i fwclis sy'n sentimental iawn - ac arni mae modrwy fy ffrind, anrheg yn 21 oed gan fy chwaer a chroes Tad-cu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Roedd 'na dipyn o steil yn perthyn i Ani a'i chwaer Gwenno pan roedden nhw yn aelodau o The Pipettes

Beth yw dy hoff lyfr?

Y llyfr gynta i mi erioed garu oedd 'Luned Bengoch' gan Elizabeth Watkin-Jones. Erbyn hyn mae'n anodd dweud, er nes i wir fwynhau 'We' gan Yevgeny Zamyatin.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

'Pulp Fiction'.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Dim clem o gwbl. Steve Buscemi? Dyle hwna fod yn ddigon o sialens iddo!

Dy hoff albwm?

Mae 'na lawer ond yr un gafodd fwya' o effaith arnai oedd 'Dare' gan Human League, yn enwedig ar ôl gweithio gyda'r cynhyrchydd Martin Rushent a chlywed am yr holl waith a aeth mewn iddo.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?

Prif gwrs - pasta pasta pasta. Dwi wrth fy modd gyda pasta.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Leanne Wood - y person dwi'n parchu fwyaf mewn gwleidyddiaeth.

Ffynhonnell y llun, Ani Saunders

Disgrifiad o'r llun, Dehongliad artistig Ani o Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Leni Hatcher