Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Rhys Mwyn

  • Cyhoeddwyd
Rhsy Mwyn

Y cerddor a'r cyflwynydd Rhys Mwyn sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos hon wedi iddo gael ei enwebu gan yr .

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Dawnsio o gwmpas y tŷ i 'Lilly the Pink' gan Y Scaffold, band oedd yn cynnwys Mike McGear (sef brawd Paul McCartney). Cofio'r gân yna a 'Yellow Submarine' am ryw reswm.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Roeddwn o hyd yn meddwl mai Billy Idol (Generation X) oedd yr hogyn mwyf golygus erioed pan ddechreuodd Punk, a Viv Albertine o'r Slits fel y ferch berffaith (tan i mi weithio hefo hi).

Drwy'r ysgol uwchradd y gwir amdani, y ferch o'n i'n ffansio oedd Sian James, y gantores werin bellach, a oedd yn yr un dosbarth â fi.

Disgrifiad o’r llun,

Viv Albertine (dde): "Y ferch berffaith (tan i mi weithio efo hi)"

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Gorfod gwisgo sbectols yn yr ysgol gynradd a'r plant arall (fel mae plant) yn chwerthin. Gwirion dwi'n gwybod ond ond mi oedd o'n beth mawr ar y pryd.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Yn ddiweddar iawn fe alwais heibio'r fynwent goffa yn Aberfan ar y ffordd adre o Gaerdydd a roedd gweld beddau'r 116 o blant agafodd eu colli yn 1966, rhai yn frodyr a chwiorydd, yn drech ar rywun. Roeddwn yn beichio crio.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Mi fydda' Nest fy ngwraig yn dweud gadael goleuadau ymlaen yn y tŷ ar ôl mynd allan.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Os oes rhaid dewis un lle, mae'n debyg mai Barclodiad y Gawres, y feddrod Neolithig ger Aberffraw gyda'r meini gyda celf Neolithig arnyn nhw. Yn dyddio o 2500 cyn Crist dyma un o'r henebion pwysicaf sydd ganddon ni yng Nghymru yn dangos cysylltiad gyda Iwerddon o ran y dull adeiladu a'r gelfyddyd.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mae gweld 'The Clash' yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy ar y '16 Tons Tour' yn gorfod bod yn un sydd yn aros yn y cof. Jest cael cyfle i weld 'The Clash' fel hogyn ifanc 17 oed.

Disgrifiad o’r llun,

Mi sgwennodd Rhys yr anthem eiconig 'Rhedeg i Paris' gyda'r Anhrefn

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Dal i gredu.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Dwi bob amser yn gwisgo crys T du o dan fy nghrys, felly dwi angen cyflenwad o grysau T du.

Beth yw dy hoff lyfr?

'A Wandering Scholar: The Life and Opinions of Robert Roberts'.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

'The Revenant' efo Leonardo DiCaprio.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Gorfod bod yn Dustin Hoffman - dwi ddim yn berson arferol, a dwi ddim yn cydymffurfio - dwi'n siŵr byddai Dustin yn iawn unwaith iddo feistrioli'r Gymraeg.

Dy hoff albwm?

'Colossal Youth' (1980 ar Rough Trade) gan Young Marble Giants o Gaerdydd - yr un mor bwerus â 'Never Mind The Bollocks' y Sex Pistols ond heb y sŵn.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?

Unrhywbeth heb glwten - anodd curo omelette ar gyfer llysieuwyr.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Mi fyddwn wrth fy modd yn cael mynd yn ôl mewn amser i fod yn un o drigolion Din Lligwy ar Ynys Môn yn y cyfnod Rhufeinig - er mwyn cael gweld sut oedd bywyd dydd i ddydd yno.

Disgrifiad o’r llun,

Fel un sy'n ymddiddori mewn archeoleg, fe fyddai Rhys wedi mwynhau mynd nôl mewn amser i fyw yn un o gytiau cerrig Din Lligwy ar Ynys Môn

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Ani Saunders