M4 ger Casnewydd: Cyhoeddi ymchwiliad cyhoeddus

Disgrifiad o'r llun, Mae'r llywodraeth yn ceisio delio â'r tagfeydd difrifol ar yr M4 ger Casnewydd

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, wedi cyhoeddi y bydd ymchwiliad lleol cyhoeddus yn cael ei gynnal i gynllun dadleuol coridor yr M4 ger Casnewydd.

Bydd yr ymchwiliad yn cael ei gynnal yng Nghasnewydd yn ystod yr hydref, ac ar 18 Gorffennaf bydd cyfarfod cyn ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Disgwylir i'r ymchwiliad cyhoeddus bara am tua 5 mis. Mae'r cynllun dadleuol i adeiladu rhan newydd o draffordd yr M4 i'r de o Gasnewydd wedi bod yn destun beirniadaeth gan grwopiau amgylcheddol, gan y byddai'r ffordd yn mynd ar draws safloedd o ddiddordeb naturiol pwysig.

Arolygydd

Bydd Arolygydd Annibynnol yn adolygu'r galw am y cynllun ac yn ystyried yr holl ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Bydd yr ymchwiliad yn clywed tystiolaeth gan arbenigwyr technegol yn ogystal â thystiolaeth gan gefnogwyr a gwrthwynebwyr y cynllun.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: "Bydd yr ymchwiliad annibynnol hwn yn cyflwyno'r cynigion ar gyfer prosiect Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd mewn fforwm gyhoeddus. Bydd yn gyfle i graffu ar y manylion mewn amgylchedd agored a thryloyw. Bydd yr adborth a gawn o'r ymchwiliad yn ein helpu i wneud penderfyniad un ai i barhau â'r gwaith adeiladu ai peidio.

"Ynghyd â gwelliannau seilwaith Gogledd , Canolbarth a Gorllewin Cymru, mae prosiect yr M4 a'r prosiect Metro yn bwysig iawn i'n gweledigaeth ni ar gyfer creu system drafnidiaeth effeithiol ac integredig yng Nghymru ac rwy'n hapus iawn ein bod wedi llwyddo i symud y mater hwn yn ei flaen mor gyflym."

Bydd yr ymchwiliad yn cael ei gynnal yn Sefydliad Lysaghts Casnewydd a bydd yn agored i'r cyhoedd. Bydd Arolygydd Annibynnol yn adolygu'r cynigion ar gyfer y Llwybr Du, sef y llwybr y mae'r llywodraeth yn ei ffafrio, a bydd yn ystyried y cynigion eraill hefyd.