Datblygu car hydrogen arloesol ym Mhowys

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Disgrifiad o'r llun, Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates a Hugo Spiers, sylfaenydd Riversimple gyda'r car arloesol

Mae cwmni o'r canolbarth wedi datblygu car arloesol sy'n defnyddio nwy hydrogen yn lle petrol.

Y Rasa yw'r car cyntaf o'i fath yn y byd a chafodd ei ddylunio a'i adeiladu ym Mhowys fel rhan o brosiect gwerth £3.5 miliwn.

Ffrwyth gwaith Riversimple Engineering, cwmni o Landrindod sy'n cyflogi 23 o bobl, yw'r car.

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi wedi bod am dro yn y car tra ar daith hyrwyddo o amgylch y DU.

Dywedodd: "Rwy'n falch iawn fod y Rasa wedi'i ddylunio a'i ddatblygu yma yng Nghymru.

Torri tir newydd

"Mae'n gar cwbl arloesol - y cyntaf o'i fath yn y byd - ac yn llawn technoleg carbon isel sy'n torri tir newydd.

"Dyma'r union fath o dechnoleg ymchwil a datblygu ry ni eisiau ei denu i Gymru a hoffwn ddymuno llwyddiant parhaus i Riversimple wrth iddynt anelu at ddatblygu ac ehangu eu busnes."

Gall y prototeip fynd o 0 i 50 milltir yr awr mewn 8 eiliad a gall gyrraedd cyflymder o hyd at 60 milltir yr awr.

Mae'r car oddeutu tair gwaith mor effeithlon â'r ceir hydrogen sydd ar werth ar hyn o bryd.

Caiff y Rasa ei bweru gan gelloedd tanwydd hydrogen ac mae ganddo system frecio atgynhyrchiol er mwyn gallu ailgipio ynni a'i storio, sy'n galluogi'r car i gyflymu.

Cafodd ei ddylunio gan Chris Reitz, sef un o ddylunwyr ceir uchaf ei barch yn Ewrop sydd â hanes llwyddiannus o gydweithio â Fiat ac Alfa Romeo.

Nod hir dymor Riversimple yw creu cyfleuster a all gynhyrchu hyd at 5000 o geir bob blwyddyn.