'Ansicrwydd' am gyrsiau Cymraeg i Oedolion

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Mae undeb UNSAIN yn galw ar Lywodraeth Cymru am eglurdeb am ddyfodol staff sy'n dysgu Cymraeg i oedolion.

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol sy'n gyfrifol am gynnig y cytundebau dysgu, i ddechrau ar 1 Awst, ond mae'n ymddangos bod rhai yn dal i ddisgwyl am gadarnhad ynglŷn â'u cyflogaeth.

Yn ôl y llywodraeth, mae'r ad-drefnu'n golygu bod yn rhaid gwneud penderfyniadau anodd ond eu bod yn hyderus y bydd y cyrsiau ar gael i'r dros 15,000 sy'n dysgu Cymraeg erbyn mis Medi.

Mae UNSAIN eisiau i'r Ysgrifennydd â Chyfrifoldeb dros y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, ymyrryd yn y broses.

Llywodraeth Cymru benderfynodd drosglwyddo'r cyfrifoldeb dros Addysg Gymraeg i Oedolion i ofal y Ganolfan.

'Ansicrwydd'

Dywedodd Dominic MacAskill, o undeb UNSAIN: "Yn syml, dydy hi ddim yn dderbyniol fod cannoedd o staff a miloedd o ddysgwyr Cymraeg yn ansicr a fydd cyrsiau sydd i fod i ddechrau fis Awst a Medi yn mynd yn eu blaenau.

"Mae rhai o'n haelodau sy'n rhan o ddarparu'r cyrsiau yma'n ansicr a fyddan nhw'n cael eu trosglwyddo i gyflogwr newydd neu'n cael eu diswyddo.

"Gan mai Llywodraeth Cymru sy'n atebol am Addysg Gymraeg i Oedolion, rydyn ni'n credu fod ganddyn nhw ddyletswydd i'r rhai hynny sy'n darparu'r gwasanaeth, a dyna pam yr ydym wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd yn gofyn iddo ymyrryd."

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a sefydlwyd yn ddiweddar yn gyfrifol am ddatblygu'r sector ar lefel strategol.

"Wrth i'r Ganolfan newid y ffordd y mae cyrsiau Cymraeg i Oedolion yn cael eu darparu, mae'n anorfod bod penderfyniadau anodd yn cael eu gwneud.

"Er ei bod wrth reswm yn gyfnod anodd i'r rhai sy'n gweithio o fewn y sector, rydyn ni'n hyderus y bydd y newidiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith mewn da bryd i'r cyrsiau, sy'n cael eu darparu i dros 15,000 o bobl, gychwyn ym mis Medi."