Â鶹ԼÅÄ

Dadorchuddio plac i Waldo Williams yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Waldo

Mae cyn brif weinidog Cymru a'i frawd wedi cymryd rhan mewn seremoni arbennig yn Sir Benfro nos Iau i gofio am y bardd, y cenedlaetholwr a'r heddychwr Waldo Williams.

Fe ddadorchuddiodd Rhodri Morgan a'i frawd Prys Morgan, Athro Emeritws ym Mhrifysgol Abertawe, blac ym Mhentref Rhoscrowdder, ger tref Penfro, yr ardal lle y cyfansoddodd Waldo ei gerdd eiconig 'Cofio' yn 1931.

Mae perthynas y teulu Morgan gyda Waldo yn dyddio nôl i gyfnod yr Ail Ryfel Byd.

Cymdeithas Waldo drefnodd y dadorchuddio, a dywedodd llefarydd ar ran y Gymdeithas: "Mae'n rhaid iddo fod yn myfyrio ynghylch y pethau sydd i'w cofio neu na ellir eu cofio ers meitin ond dywed i'r pennill cyntaf lifo ohono'n sydyn wrth dorri erfin.

"Cyfansoddodd y pum pennill dilynol wedyn gyda'r nos wedi swpera yn y ffermdy."

Disgrifiad,

Dadorchuddio'r plac

Cyfrol farddoniaeth

Mae'r gerdd yn llawn hiraeth ac angerdd am wareiddiadau coll, ac mae'r gofeb yn cynnwys cyfieithiad Saesneg o'r gerdd gan D. M. Lloyd.

Ganwyd Waldo ym 1904 yn fab i ysgolfeistr yn Hwlffordd.

Lluniodd hefyd nifer o gerddi am genedlaetholdeb, gan gynnwys Preseli, Cymru'n Un, a Cymru a'r Gymraeg.

Cyhoeddodd ei unig gyfrol o farddoniaeth, Dail Pren, yn 1956.

Bu farw ym 1971 a'i gladdu ym mynwent Capel Blaenconyn rhwng Llandysilio a Chlunderwen.

Saif carreg goffa ger Mynachlog-ddu gyda'r arysgrif 'Waldo 1904-1971' arni.