Â鶹ԼÅÄ

Cymraeg ar y tiwb

  • Cyhoeddwyd
Yws Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Yws Gwynedd

Mae hi wedi bod yn flwyddyn ryfeddol i'r canwr Yws Gwynedd. Fo oedd yr Artist Unigol gorau yn Noson Wobrwyo Selar a daeth y gân Sebona Fi i frig siart #40Mawr Radio Cymru.

Rŵan mae fideo Sebona Fi wedi ei gweld dros 100,000 o weithiau ar wefan YouTube.

Mae gan y wefan dros biliwn o ddefnyddwyr ar hyd a lled y byd ac mae llwyth o gynnwys newydd yn cael ei roi arno bob eiliad.

O i fideos sydd wedi eu cynhyrchu mewn 'stafelloedd gwely, mae 'na ystod eang o adloniant ar gael yn y Gymraeg at ddant y rhan fwyaf o bobl.

Mae fideos cerddoriaeth ymhlith y cynnwys mwyaf poblogaidd, felly aeth Cymru Fyw ati i wneud 'chydig o waith ymchwil i geisio gweld pa ganeuon Cymraeg eraill yw'r rhai mwyaf poblogaidd, hynny yw, pa ganeuon sydd wedi denu'r nifer mwyaf o gliciau.

'Dyn ni'n pwysleisio nad ydy hwn yn waith ymchwil gwyddonol a dydyn ni ddim wedi treulio oriau yn clicio trwy dudalennau unigol am YouTube. Dyma i chi drosolwg o'r hyn wnaethom ni ei ddarganfod:

Gwlad y gân

Mae fideo o glyweliad Only Boys Aloud yn canu 'Calon Lân' ar Britain's Got Talent yn 2012 wedi cael ei weld bron i 18 miliwn o weithiau a milynau hefyd wedi mwynhau perfformiadau Côr Glanaethwy yn yr un gystadleuaeth y llynedd.

Mae 'na sawl fersiwn o'n hanthem genedlaethol ar YouTube sydd wedi eu gweld a'u clywed filiynau o weithiau gan gynnwys y dehongliad .

Mae Corau Meibion Cymru yn boblogaidd iawn ar hyd a lled y byd gyda'r hen ffefryn 'Myfanwy' yn denu gwylwyr yn eu miloedd. Mae dehongliad wedi cael ei gweld dros 381,000 o weithiau, a fersiynau Côr Castell Nedd a Chôr Orffiws Treforus dros 200,00 o weithiau'r un.

Ffynhonnell y llun, YouTube
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwahanol fersiynau o 'Yma o Hyd' gan Dafydd Iwan ac Ar Lôg ymhlith caneuon Cymraeg mwyaf poblogaidd YouTube

Roeddem ni wedi meddwl y byddai 'Yma o Hyd' gan Dafydd Iwan yn eithaf poblogaidd gan ei bod hi wedi'r cwbl . Mae mwy nag un fersiwn ohoni ar gael ar YouTube. Mae un fersiwn wedi ei gweld 265,711 o weithiau. Ond mae 'na fideo unigol arall, hyd y gwelwn ni, wedi denu mwy o gliciau na'r hen ffefryn.

Mae'n siŵr fod nifer fawr ohonoch chi'n gyfarwydd gyda'r hen gân werin ond faint ohonoch chi sydd wedi clywed am Eve Goodman, y gantores sy'n ei chanu? Mae ei dehongliad hi, hyd yma, wedi cael ei weld dros 568,224 o weithiau.

Mae Eve yn 23 oed ac wedi ei magu yng Nghaernarfon ers i'w theulu symud yno pan oedd hi'n bedair. Aeth hi i'r ysgol ym Mangor cyn graddio yn ddiweddar ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi bellach yn byw yng Nghernyw.

Dywedodd Eve wrth Cymru Fyw: "Mae'n braf gwybod bod cymaint o bobl wedi mwynhau'r gân, mi fyddai'n cael lot o ymholiadau trwy YouTube yn gofyn i mi le gallen nhw ei phrynu hi. 'Dwi wastad yn cael ymateb da hefyd pan fyddai yn ei chanu yn fyw.

"Ro'n i'n gwybod bod 'na nifer fawr o bobl wedi gweld y fideo ond wnes i 'rioed sylweddoli bod y gân ymhlith y rhai mwyaf poblogaidd sydd wedi eu cyhoeddi yn y Gymraeg ar y wefan."

Mae Eve hefyd yn canu fel llais cefndir i Aled Rheon, un o artistiaid y llynedd.

"Byddwn i wrth fy modd yn ceisio adeiladu ar y llwyddiant 'rydw i wedi ei gael ar YouTube a gallu cyhoeddi rhai caneuon," meddai. "'Dwi wedi recordio ambell i gân yn stiwdio Sain ond ar hyn o bryd does gen i ddim digon o arian ar gael i fynd â'r peth ymhellach."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Eve Goodman wedi ei rhyfeddu at yr ymateb i'w dehongliad o 'Dacw 'Nghariad'

Dyma i chi siart answyddogol Cymru Fyw o'r caneuon Cymraeg a'r artistiad (ac eithrio corau) mwyaf poblogaidd ar YouTube:

1) 'Dacw 'Nghariad' - Eve Goodman (568,224)

2) 'Yma o Hyd' - Dafydd Iwan ac Ar Lôg (265,711)

3) 'Myfanwy' - Ryan Davies (146,373)

4) 'Adra' - Gwyneth Glyn (128,031)

5) 'Sosban Fach' - Cerys Matthews (115,435)

6) 'Ar Hyd y Nos' - Bryn Terfel (121,045)

7) 'Blwyddyn i Heno' - Ceredwen (107,569)

8) 'Sebona Fi' - Yws Gwynedd (100,157)

9) 'Harbwr Diogel' - Elin Fflur (78,959)

10)'Dal Fi i Lawr' - Genod Droog (71,380)

Mi wnaethon ni grybwyll mai arolwg yn unig yw hwn. Os y gwyddoch chi am fideos o ganeuon Cymraeg sydd yn disodli rhai o'r caneuon sydd yn y rhestr hon gadewch i ni wybod trwy gysylltu ar ein neu ar ein cyfrif Twitter @Â鶹ԼÅÄCymruFyw. Neu, gallwch e-bostio cymrufyw@bbc.co.uk