Â鶹ԼÅÄ

Richard Parks yn rhoi'r gorau i ymdrech i ddringo Everest

  • Cyhoeddwyd
Richard ParksFfynhonnell y llun, Richard Parks
Disgrifiad o’r llun,

Richard Parks ar ei daith blaenorol i Everest

Mae'r anturiaethwr a'r cyn chwaraewr rygbi Richard Parks wedi gorfod rhoi'r gorau i'w ymdrech i ddringo Everest a chynnal nifer o brofion meddygol ar yr un pryd.

Roedd o wedi gobeithio bod y person cynta' erioed i gymryd sampl gwaed a phrofion eraill ar y corff tra ar gopa Everest.

Bu'n rhaid iddo roi'r gorau oherwydd rhesymau meddygol.

Ond mae Parks, 38 oed, a oedd yn dringo heb ddefnyddio ocsigen atodol, wedi dychwelyd i Gymru oherwydd "risg uchel o gymhlethdodau a fyddai'n rhoi ei fywyd yn y fantol".

Yn y gorffennol mae e wedi dringo Everest ac wedi teithio ar ei ben ei hun i Begwn y De.

Perygl

Roedd Parks wedi cyrraedd yr Ail Wersyll, sy'n 6,400m (21,000ft) uwchlaw lefel y môr - y copa yw 8,848m (29,029ft).

Ond daeth â'r daith i ben ar ôl darlleniadau gwaed annormal, oedd yn golygu mwy o berygl o gael strôc neu drawiad ar y galon.

Y gobaith oedd y byddai data o'r prosiect yn caniatáu i ymchwilwyr i archwilio'r mecanweithiau sy'n sail dementia a gwydnwch.

Wrth roi terfyn ar yr ymdrech, dywedodd Parks y bu'n "bilsen chwerw i lyncu".

Chwaraeodd Parks rygbi i Bontypridd, Leeds, Perpignan a Dreigiau Casnewydd Gwent ac enillodd bedwar cap dros Gymru.