Â鶹ԼÅÄ

Cynnydd yn nifer y cwynion am ddronau

  • Cyhoeddwyd
DroneFfynhonnell y llun, PA

Mae'r heddlu yn delio â chynnydd sylweddol mewn galwadau am ddronau yn yr awyr, yn ôl ffigyrau sydd wedi eu datgelu i Â鶹ԼÅÄ Cymru.

Heddlu De Cymru welodd y cynnydd mwyaf, gyda 38 o alwadau dros y flwyddyn ddiwethaf - cynnydd o 34 achos dros y tair blynedd diwethaf.

Fe gafodd Heddlu Gwent 19 o gwynion yn 2015-16, ac fe gafodd Heddlu Dyfed-Powys naw cwyn.

Dim ond un gwyn mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ei dderbyn ers 2010.

Roedd hefyd sôn fod dronau wedi cael eu gweld dros Garchar Abertawe dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae cais dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth wedi datgelu fod un o'r dronau hynny, ynghyd â ffôn symudol wedi cael eu cymryd gan yr heddlu, ond chafodd neb ei arestio.

Fe all unrhyw un sy'n cael ei ddal yn ceisio smyglo eitemau gwaharddedig i garchar wynebu cosbau, gan gynnwys carchar am ddwy flynedd.

Yn y cyfamser, mae cais dan y ddeddf rhyddid gwybodaeth arall wedi datgelu fod cynnydd mewn galwadau i'r heddlu am ddronau yn ystod 2015-16.

Ffynhonnell y llun, Getty Images