Â鶹ԼÅÄ

Protestwyr yn meddiannu gwaith glo Ffos-y-Fran

  • Cyhoeddwyd
protest

Fe wnaeth cannoedd o brotestwyr feddiannu safle glo brig Ffos-y-Fran ger Merthyr Tudful dydd Mawrth.

Aeth grŵp bach o'r protestwyr i mewn i'r gwaith a chlymu eu hunain i beiriannau trwm.

Roedd y protestwyr wedi eu gwisgo mewn coch, fel cyfeiriad at y gwrthdystiadau a gynhaliwyd tu allan i gynhadledd hinsawdd y Cenhedloedd Unedig ym Mharis y llynedd.

Dywedodd llefarydd fod eu gwisg yn symbol o'r llinell goch "na ddylid ei chroesi gan y defnydd o danwydd ffosil."

Ar safle'r gwaith glo brig roedd arweinydd Plaid Werdd y DU, Natalie Bennett, ac arweinydd y blaid yng Nghymru, Alice Hooker-Stroud.

Roedd y gwaith o gloddio wedi ei atal am gyfnod, ac roedd nifer o swyddogion yr heddlu yn bresennol.

Y tu allan i'r brif giât roedd grŵp o 50 o brotestwyr.

Dywedodd y cwmni Miller Argent, rheolwyr y safle, eu bod yn bryderus am ddiogelwch pawb oedd yn ymwneud a'r digwyddiad tra roedd y protestwyr ar y tir.

Mae'r cwmni hefyd yn pwysleisio bod y gwaith yn cefnogi dros 230 o swyddi lleol ac yn darparu glo ar gyfer y diwydiant dur.

'Parchu hawl democrataidd'

Yn ystod y digwyddiad fe wnaeth Heddlu De Cymru ryddhau datganiad, oedd yn dweud: "Mae gennym brofiad helaeth o weithio gyda phrotestwyr a grwpiau ymgyrchu ac rydyn ni'n parchu eu hawl democrataidd i weithredu'n heddychlon.

"Yr her gyda phlismona protestiadau yw sut i gydbwyso'r hawliau hynny gyda hawliau eraill sydd am fynd 'mlaen â'u gwaith o ddydd i ddydd heb dramgwydd.

"Rydyn ni'n ceisio ymateb yn briodol, gan ddibynnu ar yr hyn rydyn ni'n gweld fel perygl i ddiogelwch y cyhoedd neu droseddu.

"Bydd lefel y plismona'n adlewyrchu hyn a fyddwn ni ddim eisiau anfon mwy o swyddogion na sy'n angenrheidiol.

"Does dim i awgrym bod risg o anrhefn ond mae gennym bresenoldeb yn yr ardal a digon o adnodda ar gael i ddelio ag unrhyw faterion o ran diogelwch y cyhoedd.".