Talu teyrnged i deuluoedd Hillsborough cyn gêm bêl droed

Ffynhonnell y llun, Reuters

Mae cefnogwyr pêl droed wedi bod yn talu teyrnged i'r ymgyrch Cyfiawnder i'r 96 cyn gêm Abertawe yn erbyn Lerpwl.

Cafodd 96 o bobl eu gwasgu i farwolaeth ar deras Leppings Lane yn stadiwm Hillsborough yn 1989.

Ers 27 o flynyddoedd mae teuluoedd y rhai fu farw wedi bod yn ymgyrchu i gael gwybod beth ddigwyddodd y diwrnod hwnnw.

Ar y pryd roedd rhai papurau newydd a'r heddlu wedi beio'r cefnogwyr, cyhuddiadau gafodd eu profi wedyn i fod yn gelwyddog.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Disgrifiad o'r llun, Aelodau teuluoedd y rhai fu farw yn dilyn canlyniad y cwest ddydd Mawrth

Ddydd Mawrth mi benderfynodd y rheithgor yn y cwest bod y rhai fuodd farw wedi'u lladd yn anghyfreithlon.

Roedd munud o gymeradwyaeth cyn i'r gêm ddechrau am hanner dydd yn Stadiwm Liberty.

Bu farw dau o Gymru yn y digwyddiad y diwrnod hwnnw - John McBrien o Dreffynnon a David Brown (oedd yn cael ei adnabod fel Steve Brown) o Holt, ger Wrecsam.

Dywedodd llefarydd Clwb Abertawe cyn y gêm: "Mae pawb wedi gweld y dewrder a chryfder gan y teuluoedd yn ystod y 27 mlynedd diwethaf.

Mae'n rhaid bod y cyfnod wedi bod yn un anodd iawn iddyn nhw ac mi ydyn ni yn meddwl, fel gweddill y gymuned bel droed bod eu brwydr wedi bod yn un cyfiawn.

Fel clwb pêl droed, roedden ni eisiau sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda nhw a dangos ein cefnogaeth i'r teuluoedd hynny wnaeth golli eu hannwyliaid."