Ysgol Gymraeg newydd sbon i Sir Benfro?

Ffynhonnell y llun, Ceridwen/Geograph

Disgrifiad o'r llun, Pencadlys Cyngor Penfro

Fe allai ysgol cyfrwng Cymraeg newydd sbon ar gyfer disgyblion 3-16 oed yn Sir Benfro gael ei hadeiladu ar Ffordd Llwynhelyg yn Hwlffordd.

Bydd gofyn i gynghorwyr sir ystyried y cynllun mewn cyfarfod cyngor eithriadol fydd yn cael ei gynnal ddydd Iau, 21 Ebrill.

Maen nhw eisoes wedi pleidleisio mewn egwyddor dros agor ysgol cyfrwng Cymraeg yn Hwlffordd.

Yn wreiddiol, roedd swyddogion y cyngor yn ystyried agor ysgol newydd ar safle ysgol Tasker Millward, ac ar ôl hynny, ar safle presennol Syr Thomas Picton.

Mae'r cynnig newydd yn awgrymu adeiladu ysgol newydd sbon ar Ffordd Llwynhelyg.

Mae'r cyngor wedi cytuno i Gyfnewid Cytundeb amodol, sy'n dibynnu ar ganiatâd cynllunio boddhaol, a sêl bendith y Cyngor a Llywodraeth Cymru.