Sylwadau ymgeisydd UKIP 'ddim yn hiliol o gwbl'

Ffynhonnell y llun, Media Wales

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Gareth Bennett bod cysylltiad rhwng mewnfudwyr a phroblem sbwriel

Mae arweinydd UKIP yng Nghymru wedi dweud bod sylwadau gan ymgeisydd ar gyfer y Cynulliad yn cysylltu problemau sbwriel yng Nghaerdydd ag ymfudwyr "ddim yn hiliol o gwbl".

Ond dywedodd Nathan Gill wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru nad oedd yn cefnogi sylwadau Gareth Bennett.

Fe wnaeth Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol UKIP gefnogi ymgyrch Mr Bennett ar gyfer Canolbarth De Cymru ddydd Llun.

Daeth y penderfyniad er galwadau i weithredu yn ei erbyn a chwynion swyddogol gan 16 o'i gyd-ymgeiswyr.

Mae arweinydd UKIP, Nigel Farage wedi ymbellhau ei hun o sylwadau Mr Bennett gan ddweud na fyddai'r math o berson y byddai'r blaid yn "falch" o'i gael fel Aelod Cynulliad.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Nathan Gill nad oedd yn cefnogi sylwadau Gareth Bennett

Yn siarad ar Radio Wales ddydd Gwener, dywedodd Gill ei fod yn cefnogi Mr Bennett am ei fod wedi "cael ei ddewis gan aelodaeth Cymru".

"Dydw i ddim yn cefnogi ei sylwadau - ei sylwadau o oedden nhw, ac mae hynny'n rhywbeth y dylai ef fod yn atebol amdano," meddai.

"Dydi o'n bendant ddim yn bolisi UKIP a dydi o ddim yn rhywbeth rydyn ni'n ei gydnabod.

"Yr hyn rydyn ni'n ei gydnabod yw bod problemau oherwydd gormod o fewnfudo, a dyw'r cynghorau heb allu dal i fyny gyda hynny."