Â鶹ԼÅÄ

Cyngor Gwynedd yn gwrthod cais i godi 366 o dai ym Mangor

  • Cyhoeddwyd
Ffordd Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r fynedfa i'r datblygiad arfaethedig wedi bod oddi ar Ffordd Caernarfon

Mae Cynghorwyr Gwynedd wedi gwrthod cais cynllunio dadleuol ar gyfer dros 350 o dai newydd ar gyrion Bangor.

Roedd swyddogion wedi argymell cymeradwyo'r cais ond cafodd ei wrthod gan y pwyllgor cynllunio, yn bennaf oherwydd pryderon am yr effaith ar yr iaith Gymraeg.

Er i swyddogion cynllunio rybuddio y gallai'r cyngor golli'r ddadl mewn apêl, penderfynodd yr aelodau wrthod y cais gan gwmni Morbaine o 10 pleidlais i dair.

Roedd y datblygwyr eisiau codi hyd at 366 o dai ar dir ym Mhen y Ffridd.

Gwrthwynebiad

Roedd y cynghorau cymuned leol wedi mynegi pryder ynglŷn â'r effaith fyddai'r cynllun yn cael ar ysgolion y cylch ac ar draffig yn y ddinas.

Roedd rhai'n amheus hefyd ynglŷn â'r angen am gymaint o gartrefi newyddi, o gofio fod 250 o dai eisoes yn cael eu hadeiladu yn ardal Penrhosgarnedd.

Cafodd y cais ei wrthod yn wreiddiol ym ond roedd cadeirydd y pwyllgor cynllunio yn teimlo y dylai'r cais fod wedi ei ganiatáu.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu'r penderfyniad.

Dywedodd Bethan Ruth, swyddog maes lleol y mudiad: "Mae statws y Gymraeg yn y system gynllunio wedi cael ei chryfhau yn ddiweddar, ac rydyn ni'n falch bod cynghorwyr wedi defnyddio'r pwerau hynny.

"Dylai unrhyw ddatblygiadau adlewyrchu'r angen lleol am dai a rhoi buddiannau'r gymuned yn gyntaf, yn hytrach na buddiannau datblygwyr."