Gareth Bennett i aros fel ymgeisydd UKIP

Ffynhonnell y llun, Media Wales

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Gareth Bennett bod cysylltiad rhwng mewnfudwyr a phroblem sbwriel

Mae UKIP wedi gwrthod galwadau i gael gwared ag ymgeisydd ar gyfer y Cynulliad, er cwyn swyddogol gan 16 o'i gyd-ymgeiswyr.

Roedd yr 16 wedi galw am weithred yn erbyn prif ymgeisydd y blaid ar gyfer rhanbarth Canol De Cymru, Gareth Bennett.

Fe wnaeth Mr Bennett gysylltu problemau sbwriel yng Nghaerdydd a mewnfudwyr o ddwyrain Ewrop.

Mae ymgeisydd arall ar gyfer y blaid, Llyr Powell, oedd yn ymgeisydd dros Gastell-nedd, wedi cadarnhau ei fod yn tynnu ei enw yn ôl oherwydd y penderfyniad.

Yn y cyfamser mae pennaeth y wasg y blaid yng Nghymru, Alexandra Phillips, wedi rhoi'r gorau i fod yn ymgeisydd Cynulliad am resymau personol.

Cafodd ddyfodol Mr Bennett fel ymgeisydd ei drafod mewn cyfarfod o Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol UKIP ddydd Llun.

'Tanseilio'r blaid'

Mae'r gwyn, gafodd ei gwneud mewn llythyr i'r cadeirydd, Steve Crowther, ac sydd wedi ei weld gan Â鶹ԼÅÄ Cymru, yn galw am gosbi Mr Bennett.

Mae'n dweud: "Rydyn ni fel ymgeiswyr a llawer o aelodau sy'n ein cefnogi yn ystyried os yw UKIP yn ein cynrychioli ni."

Cafodd y llythyr ei arwyddo gan 16 o ymgeiswyr ar gyfer etholiad y Cynulliad ac etholiad y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd.

Mae'r gwyn yn dweud bod sylwadau Mr Bennett yn "tanseilio'r blaid" ac yn mynd yn erbyn "safbwynt teg a moesol UKIP yn ymwneud a mewnfudo".

"Nid yw Mr Bennett yn addas i fod yn brif ymgeisydd mewn plaid lle mae cysylltu gyda'r cyhoedd yn hanfodol i'n llwyddiant."

Sylwadau

Ar raglen Daily Politics y Â鶹ԼÅÄ, roedd Mr Bennett wedi dweud bod yna gysylltiad rhwng mewnfudwyr a sbwriel ar Ffordd y Ddinas yng Nghaerdydd.

Gofynnodd y cyflwynydd, Andrew Neil, pa dystiolaeth oedd ganddo i'w honiad mai mewnfudwyr oedd yn gyfrifol.

Dywedodd: "Does gen i ddim tystiolaeth gadarn i roi i chi nawr.

"Mae nifer wedi gwneud y cysylltiad drwy drafodaethau gyda fi am y nifer o bobol sy'n dod yma o ddwyrain Ewrop."

Disgrifiad o'r llun, Mae Nigel Farage wedi ymbellhau ei hun oddi wrth sylwadau Mr Bennett

Fe wnaeth arweinydd UKIP, Nigel Farage, ymbellhau ei hun o sylwadau Mr Bennett gan ddweud na fyddai'r math o berson y byddai'r blaid yn "falch" o'i gael fel Aelod Cynulliad.

Roedd un o wleidyddion blaenllaw UKIP hefyd wedi dweud y byddai'r pwyllgor gwaith yn ystyried a ddylid tynnu enw'r ymgeisydd o'r rhestr wedi ei sylwadau.

Yn y cyfamser, mae Ms Phillips, oedd yn ail ar y rhestr i fod yn ymgeisydd UKIP yn rhanbarth Canol De Cymru yn yr etholiad fis Mai, tu ôl Mr Bennett, wedi dweud na fydd hi'n sefyll fel ymgeisydd.

"Rwyf wedi meddwl am hyn yn ddwys ac wedi penderfynu nad yw gwleidyddiaeth pleidiol yn rhywbeth i mi," meddai Ms Phillips.

"Mae'n benderfyniad personol."