Treth ychwanegol ar ail dai mewn tair sir

Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi cytuno i godi treth ychwanegol o 25% ar ail gartrefi a thai haf, ac mae Cyngor Sir Benfro wedi cymeradwyo treth debyg o 50%.

Fore Iau fe wnaeth Cyngor Sir y Fflint hefyd godi premiwm o 50% ar dai o'r fath.

Mewn cyfarfod i gymeradwyo lefel y dreth cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, fe gafodd yr ychwanegiad sêl bendith aelodau Cyngor Sir Ynys Môn brynhawn Iau.

Bydd y dreth cyngor yn codi o 3.5% yn 2016-17 - sy'n golygu y bydd y dreth yn y sir ymhlith yr isaf yng Nghymru - ond fe fydd atodiad o 25% yn cael ie osod ar dai sy'n wag am gyfnodau hir ac ail gartrefi.

Yn Sir Benfro fe gafodd gwelliant oedd yn awgrymu codi premiwm o 100% ei wrthod, ond bydd hanner y tal ychwanegol yn cael ei wario ar dai fforddiadwy a'r hanner arall ar wasanaethau lleol.

Yn Llangefni. dywedodd yr aelod o gabinet Cyngor Môn sydd â chyfrifoldeb am gyllid, y Cynghorydd Hywel Eifion Jones: "Gydag Ynys Môn yn wynebu toriad cyllid o 2% gan Lywodraeth Cymru, gellir dweud yn bendant mai hon fu'r gyllideb fwyaf heriol i ni hyd yma ac fe'n gorfodwyd i wneud arbedion sylweddol - cyfanswm o £3.5m - ar draws pob gwasanaeth.

"Fodd bynnag, mae rheolaeth ariannol ofalus wedi'n galluogi ni i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen ac adlewyrchu dyheadau'r cyhoedd yn ein cynigion cyllideb derfynol. Rydym wedi diogelu addysg a gwasanaethau cymdeithasol, a chadw cynnydd eleni yn y Dreth Cyngor mor isel â phosib."

Bydd Ynys Môn hefyd yn cyflwyno Premiwm Treth Cyngor ar gyfer eiddo gwag hir dymor ac ail gartrefi o 1 Ebrill 2017, ar ôl derbyn pwerau newydd gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r ffigyrau cyfredol yn dangos bod yna 784 o eiddo gwag ar yr Ynys, gyda 35% ohonynt wedi bod yn wag am dros bedair blynedd. Yn ogystal mae yna 2,311 o ail gartrefi.

Mae'r cynghorwyr wedi mabwysiadu premiwm o 25% ar yr eiddo yma. Cafodd y premiwm ei ddisgrifio gan lefarydd fel "man cychwyn synhwyrol er mwyn helpu dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd a chefnogi pobl ifanc i gael troed ar yr ystôl dai, tra hefyd yn amddiffyn diwydiant twristiaeth yr Ynys".

Mae'r Cyngor Sir yn paratoi ar gyfer y posibilrwydd o doriadau pellach o hyd at £10m rhwng 2017 a 2020.