Â鶹ԼÅÄ

Agor trydedd ysgol ddwyieithog y Wladfa

  • Cyhoeddwyd
Ysgol y CwmFfynhonnell y llun, Isaias Grandis
Disgrifiad o’r llun,

Codi baneri Ariannin a Chymru y tu flaen i Ysgol y Cwm

Mae trydedd ysgol ddwyieithog Cymraeg a Sbaeneg yn agor ym Mhatagonia.

Ysgol y Cwm yw'r ysgol gyntaf o'i bath i agor yn Nhrevelin yng Nghwm Hyfryd, yng ngorllewin y Wladfa.

Bydd 50 o blant o oed meithrin yn dechrau yn yr ysgol ddydd Mercher, ond mae lle yn yr adeilad newydd i 200 o ddisgyblion yn y pendraw.

Bu Â鶹ԼÅÄ Cymru allan ym Mhatagonia ar gyfer dathliadau 150 o flynyddoedd sefydlu'r wladfa yn 2015, gan weld gwaith adeiladu'r ysgol.

Un sydd wedi ymwneud â'r prosiect yw Clare Vaughan, sy'n gweithio i hyrwyddo'r Gymraeg yn Nhrevelin: "Rydyn ni'n agor am y tro cyntaf i'r plant. Da ni wedi bod yn gweithio ers ugain mlynedd efo'r prosiect, ond mewn cyrsiau allgyrsiol. Breuddwyd y gymuned ar gyfer nodi 150 o flynyddoedd ers sefydlu'r Wladfa oedd agor ysgol fyddai'n darparu addysg trwy gyfrwng y Sbaeneg a'r Gymraeg yma yn Nhrevelin.

Disgrifiad o’r llun,

Clare Vaughan o flaen Ysgol y Cwm yn ystod y gwaith adeiladu.

Er mai niferoedd bychain sy'n siarad Cymraeg ar yr aelwyd yn Nhrevelin, hyd yn oed cyn iddi agor, mae Ysgol y Cwm wedi dod yn boblogaidd iawn.

"Pan naethon ni sôn am ddechrau ysgol feithrin, roedd o'n fater o weld sut fasai pobl yn ymateb, ond mae wedi bod yn ffantastig. Heb fod wedi gorffen yr adeilad, roedd gyda ni 50 o blant wedi eu rhag-gofrestru."

Disgrifiad o’r llun,

Ysgol y Cwm yn ystod y gwaith o'i hadeiladu.

Mae Mary Green yn un o drigolion Trevelin ac yn falch iawn fod yr ysgol yn agor: "Mae o'n gam ymlaen faswn i'n ddweud i beth oedd o.

"Da' ni wedi bod yn siarad Cymraeg yma erioed ond heb gael addysg ac - yn enwedig i'r genhedlaeth newydd - mi fyddai'n mynd yn anodd iawn cynnal yr iaith.

"Efo ysgol ddwyieithog da' ni'n gobeithio y bydd cenhedlaeth newydd o blant sydd lawer ohonyn nhw falle ddim o dras Cymreig, neu efallai ag ychydig iawn o waed Cymreig ynddyn nhw, ond yn cymryd diddordeb ac yn barod, ac yn falch i ddysgu a dal ymlaen efo'r heniaith.

'Stamp Cymreictod'

Mewn tre lle mae cynifer o bobl frodorol â chysylltiadau teuluol â'r Almaen, yr Eidal, Sbaen a Chymru, beth ydy apêl arbennig y Gymraeg?

"Yn Nhrevelin ac yn y Gaiman ac yn Nhrelew," medd Mary, "mae stamp Cymreictod llawer cryfach na'r gwledydd eraill yma, er bod llawer iawn o Sbaenwyr a llawer iawn o Eidalwyr a llawer iawn o genhedloedd eraill wedi dod wedyn. Da' ni wedi cadw, mae o'n rhyw fath o farc, mae o arnon ni. Felly mae pobl newydd sy'n dod yn aml iawn yn cymryd diddordeb ac mae dwyieithrwydd yn beth ffasiynol hefyd.

"Mae ysgolion dwyieithog Saeseng, Eidaleg ac Almaeneg yn y wlad yma'n barod, wedyn y cwestiwn oedd pam lai na allwn ni gael ysgol ddwyieithog Gymraeg.

Disgrifiad o’r llun,

Plant yn chwarae mewn dosbarth allgyrsiol cyn i Ysgol y Cwm agor.

Pennod newydd i'r Gymraeg yn Nhrefelin felly, ond hefyd wrth gwrs, pennod newydd i'r plant sy'n dechrau yn yr ysgol. Clare Vaughan sy'n egluro beth sy'n wynebu'r disgyblion ar eu diwrnod cyntaf yn ysgol y Cwm:

"Caneuon i groesawu'r plant, felly rydyn ni'n mynd i ganu yn Gymraeg ac yn Sbaeneg a byddwn ni'n gweithio ar wneud bathodynnau â enwau'r plant, ac wedyn dwi'n siwr bydd awr neu ddwy'n pasio a byddwn ni'n cau'r prynhawn gyda mwy o ganu cyn i'r plant fynd adref ar ôl eu diwrnod cyntaf.

Disgrifiad o’r llun,

Rhai o blant Trevelin yn mwynhau canu.