Â鶹ԼÅÄ

Delio gyda salwch meddwl

  • Cyhoeddwyd
Haul trwy'r cymylau

Bob blwyddyn, mae un o bob pedwar person yn y DU yn diodde' o salwch meddwl. Mae Wythnos Iechyd Meddwl y Â鶹ԼÅÄ yn ceisio codi ymwybyddiaeth ynglÅ·n â salwch meddwl ac annog pobl i rannu eu problemau.

Mae cyfrol o ysgrifau ei chyhoeddi yn ddiweddar sy'n cynnwys profiadau Cymry adnabyddus o geisio dygymod â phroblemau iechyd meddwl. Alaw Griffiths, golygydd 'Gyrru Drwy Storom', sy'n sôn am bwysigrwydd trafod hyn yn agored, yn sensitif ac yn bositif, a hynny yn Gymraeg:

Y Gymraeg a iechyd meddwl

Cefais gyfres o sesiynau therapi siarad pan oedd fy mabi tua 9 mis oed, trwy'r Gwasanaeth Iechyd. Roedd rhaid bodloni ar wasanaeth Saesneg, neu ddim o gwbl - doedd dim nerth gennyf i wrthod unrhyw fath o wasanaeth a fyddai'n gymorth i mi wella.

Wrth ddod yn gryfach dechreuais bori'r we a siopau llyfrau ond methais ddod o hyd i unrhyw wefannau neu lyfrau gyda gwybodaeth digonol am salwch meddwl yn y Gymraeg.

Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, soniais wrth fy ngŵr am y syniad o gyhoeddi cyfrol, yn y Gymraeg, gyda phytiau gan wahanol bobl yn sôn am eu profiadau nhw o salwch meddwl.

Roeddwn am i bobl oedd yn dioddef gael darllen rhywbeth yn eu mamiaith, ac roeddwn am roi gobaith iddyn nhw - dim ots pa mor fach neu ddwys oedd eu problemau, roeddem ni, y cyfrannwyr, yn brawf bod modd gwella a dianc o'r crafangau hyll hynny.

Mae'n bosib gwella

Mae llawer iawn ohonom yn dod i gyswllt â salwch meddwl mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, yn ddioddefwyr ein hunain neu yn nabod aelod o'r teulu neu ffrind sydd yn dioddef.

Pan oeddwn i'n sâl roedd hi'n anodd iawn cael trafod salwch meddwl yn y Gymraeg a dwi'n meddwl bod cael trafod materion iechyd yn eich mamiaith yn hanfodol ar gyfer gwella.

Nid cyfrol drist yw hon ond cyfrol llawn gobaith, oherwydd mae pob storm yn dod i ben ac mae'r straeon yma yn dangos ei bod hi'n bosib gwella.

Mae 'Gyrru Drwy Storom' yn cynnwys cerddi, ysgrifau a llythyr ac yn trafod problemau iselder dwys, alcoholiaeth, iselder ôl-geni ac anorecsia.

Mae pob un o'r cyfranwyr yn brwydro i roi diwedd ar y stigma sydd ynglwm wrth y geiriau salwch meddwl. Bydd yn anodd darllen drwy llawer o'u profiadau ond, wrth ddarllen, cofiwch fod bob un stori hefyd yn llawn gobaith gan fod pob un wedi goroesi'r storom.

Ffynhonnell y llun, Y Lolfa
Disgrifiad o’r llun,

Alaw Griffiths (trydydd o'r chwith) gyda rhai o gyfranwyr y llyfr, gan gynnwys ei gŵr, y Prifardd Hywel Griffiths

Mae gŵr Alaw, y Prifardd Hywel Griffiths, hefyd wedi cyfrannu at y gyfrol:

Catharsis

Nid cyfrol o gyfraniadau gan bobl sydd wedi dioddef salwch meddwl yn unig yw hon - ceir cyfraniadau gan eu teuluoedd hefyd. O ystyried cynifer o bobl sydd yn dioddef ac ein bod yn debygol iawn o adnabod rhywun sy'n dioddef rhyw dro, mae clywed profiadau felly yn bwysig iawn hefyd.

Yn ogystal â darllen am brofiadau pobl eraill sydd yn gorfod delio gyda salwch meddwl, mae cael ysgrifennu am y peth yn help mawr hefyd. Roedd cael ysgrifennu cerdd am y profiad yn fodd o gau pen y mwdwl ar gyfnod a set o brofiadau penodol.

[Addasiad yw hwn o erthygl gafod ei chyhoeddi gan Cymru Fyw yn ystod Haf 2015.]