Galw am arian parod penodol i Gymru

Disgrifiad o'r llun, Hen bapurau arian rhai o Fanciau lleol Cymru o'r gorffennol

Dylai Cymru gael ei harian parod ei hun er mwyn i'r wlad gael yr un statws a'r Alban a Gogledd Iwerddon, meddai Plaid Cymru.

Dywed yr aelod seneddol Jonathan Edwards y gallai'r papurau arian gael delweddau o enwogion hanesyddol Cymreig, neu enwogion o fyd y campau.

Mae hefyd wedi galw ar Fanc Lloegr i gael enw newydd - Y Banc Canolog Sterling - ac mae'n galw ar y banc i fod yn atebol i'r pedair senedd neu gynulliad datganoledig.

Fe ddywedodd Mr Edwards, sy'n AS dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, y byddai'n galw am ddiwygio'r bil gwasanaethau ariannol sy'n cael ei drafod yn San Steffan ddydd Llun.

"Ers llawer o flynyddoedd, mae pobl yng Nghymru wedi eu plesio wrth ymweld â'r Alban neu Ogledd Iwerddon i weld fod y gwledydd yn gallu cyhoeddi a defnyddio eu papurau sterling eu hunain, dim ond i gael eu siomi wrth ddychwelyd i Gymru o weld fod Cymru'n cael ei hanwybyddu," meddai.

"Rydym wedi ein gwasgu at ein gilydd gyda Lloegr yn yr achos hwn ac cael ein gwrthod am y cyfle i gael ein trin fel cenedl gyfartal o fewn y DU.

"Byddai papurau sterling Cymreig wedi eu cynnal gan y banc canolog yn ein rhoi ar sail cyfartal gyda chenhedloedd eraill ac yn normaleiddio'r sefyllfa."

Ffynhonnell y llun, AFP

Disgrifiad o'r llun, Arian

Banciau

Mae gan saith o fanciau'r Alban a Gogledd Iwerddon hawl i gyhoeddi papurau arian, ac roedd y banciau'n gwneud hyn cyn Deddf Siarter y Banciau yn 1844, oedd yn gwahardd unrhyw fanciau newydd rhag gwneud yr un peth.

Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys: "O dan y ddeddfwriaeth bresenol, nid oes gan yr un banc nad oes gyda'r hawl i gyhoeddi papurau arian masnachol, boed hynny yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, yr hawl i ddechrau cyhoeddi papurau arian."

Roedd gan lawer o drefi a phentrefi Cymreig eu banciau eu hunain oedd yn cyhoeddi arian papur yn y 18fed a'r 19fed ganrif, cyn i ddeddfwriaeth a banciau'n uno weld diwedd ar y traddodiad.

Y banc olaf yng Nghymru i gyhoeddi arian papur oedd y North and South Wales Bank. Fe ymunodd y banc hwnnw gyda'r Midland Bank (HSBC heddiw) yn 1908.