Ateb y Galw: Tom Shanklin

Y chwaraewr rygbi Tom Shanklin sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma, wedi iddo gael ei enwebu gan Jonathan Davies yr wythnos diwethaf.

Beth ydy dy atgof cyntaf?

Cicio pêl at gôl yn yr ardd gefn - aeth hi i gefn y rhwyd, wrth gwrs.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Cymeriad Pamela Anderson yn Baywatch, C J Parker. Gwallt arbennig ganddi.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae 'na lun sy' gan Undeb Rygbi Cymru ohona i, ac am ryw reswm ma nhw'n defnyddio fo ar gyfer digwyddiau cyhoeddusrwydd. Mae'r llun yn ofnadwy, ma'n wallt i (pan oedd genai wallt) ym mhobman a dwi'n edrych yn mess llwyr, fel rhywun di-gartref. Dwi'n cal dipyn o texts a negeseuon gan fy ffrindiau pan mae'r llun 'na'n dod i'r wyneb bob hyn a hyn.

Disgrifiad o'r llun, Mae Cymru Fyw wedi ffeindio'r llun...

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Yn rhoi fy chwaer i ffwrdd yn ei phriodas ar Ionawr 1. O'n i ddim yn meddwl y byswn i ond mi wnes i.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Deffro'n rhy gynnar a deffro pawb yn y tÅ· wrth wneud.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Dinbych y Pysgod. Dyna lle ma'n nheulu i'n dod ac o'n i'n mynd yno yn fy mhlentyndod cynnar. Mae'n wych yno yn yr haf, ond dim llawer i'w wneud yno yn y gaeaf.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Yn ystod Cwpan y Byd 2007 o'n i yn Paris gyda gweddill garfan Cymru. Aethon ni i weld sioe Le Lido, sydd fel rhyw sioe cabaret a burlesque ar y Champs-Élysée. Yna aethon ni allan i weld bach o rasio a betio, ac yna roedd y bois eisiau diod bach. Roedd ganddon ni armed guards, felly aethon ni ar y bws gyda nhw a gyrru lawr y Champs-Élysée ar ochr anghywir y ffordd i chwilio am y llefydd gorau i fynd am ddiod.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Sych. Sarcastic. Hael.

Disgrifiad o'r llun, Mi fuodd Tom yn dysgu'r Gymraeg ar y gyfres ddiwethaf o Cariad@Iaith

Beth yw dy hoff lyfr?

'The Ice Man: Confessions of a Mafia Contract Killer'. Mae'r llyfr yn dilyn hanes Richard 'the Ice Man' Kuklinski, a oedd yn gweithio fel hitman i'r Mafia. Hollol anghygoel o lyfr.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Trainers, gan fy mod wrth fy modd yn mynd i'r gym. Dwi'n ofnadwy o gryf.

Disgrifiad o'r llun, Tom yn y gampfa unwaith eto - a oes 'comeback' ar y gorwel?

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

'Get Hard' gyda Will Ferrell - eitha da 'fyd.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Gallech chi ddewis llawer o bobl, Duncan Goodhew, Phil Steele... ond dwedwn ni Jimmy Summerville.

Dy hoff albwm?

East 17 Greatest Hits

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydy dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?

Pwdin - casgliad o gawsiau gwahanol

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Dan Bilzerian y chwaraewr poker sydd efo lot o arian a bywyd anghygoel. Neu Jamie Roberts.

Disgrifiad o'r llun, Tom gyda un o'i arwyr, Jamie Roberts

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Yr actor Steve Speirs