Tref y dur: Y llanw a thrai

Ffynhonnell y llun, Topical Press Agency

Disgrifiad o'r llun, Diwedd diwrnod o waith yn y gwaith dur ym Mhort Talbot 1949

Ers dros 60 mlynedd mae'r diwydiant dur wedi bod yn rhan o wead tref Port Talbot. Mae'r gweithfeydd yn ymdoddi i dirlun y lle ac i weld yn amlwg wrth i rhywun yrru ar hyd yr M4.

Ar ei anterth yn y 60au mi roedd yna bron i 20,000 yn cael cyflog o`r gwaith dur. Er bod y niferoedd wedi gostwng mae 4,000 yn dal i weithio yno, ac mae'n rhan hanfodol o economi Cymru.

Dyma waith dur mwyaf cwmni Tata Steel ym Mhrydain. Mae 3,000 arall hefyd yn gweithio yn Llanwern, Shotton a Throstre yn Llanelli.

Mae yna fuddsoddi sylweddol wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys gwario £185 miliwn ar ail adeiladu ffwrnais chwyth. Ond mae Tata wedi wynebu problemau o sawl cyfeiriad.

Y problemau

Mae gweithfeydd dur yn defnyddio llawer iawn o ynni. Mae'r safle ym Mhort Talbot yn defnyddio cymaint o ynni â holl dref cyfagos Abertawe.

Mae yna hefyd broblemau gyda'r farchnad. Mae China yn allforio dwy waith yn fwy o ddur i Brydain nag oedden nhw yn 2013 ac am bris is. Y gred ydy nad yw`r safle yn neud elw, ond yn hytrach bod yna golledion o filiynau o bunnau yr wythnos.

Pwysigrwydd y diwydiant

Mae'r gweithfeydd ym Mhort Talbot yn gyflogwr mawr gyda chyflogau y gweithwyr yn dechrau ar tua £30,000 y flwyddyn.

Yn ôl yr economegydd Calvin Jones o Brifysgol Caerdydd sydd wedi astudio dylanwad Tata "yn economaidd (dyma'r) sector breifat mwyaf pwysig yng Nghymru."

Mae'r cwmni Tata a'r cwmniau cyflenwi yn werth £3.2bn i'r economi.

Heblaw am weithwyr y safle, yr amcangyfrif yw bod yna 10,000 o swyddi llawn amser arall hefyd yn ddibynnnol ar y gwaith.

Ffynhonnell y llun, Fox Photos

Disgrifiad o'r llun, Gwaith dur Port Talbot yn 1961

HANES DUR YNG NGHYMRU

  • 1902: Sefydlu'r gwaith dur cyntaf ym Mhort Talbot.
  • 1923: Cwblhau ail waith dur ym Margam.
  • 1947-53: Codi trydydd gwaith dur ym Mhort Talbot sy'n dod yn rhan o Gwmni Dur. Mae'r cwmni'n cyflogi tua 18,000. Erbyn y cyfnod hwn y felin ddur yn Nglyn Ebwy yw`r mwyaf yn Ewrop.
  • 1962: Y Frenhines yn agor ffatri Spencer Works yng Nghasnewydd a ddaw i gael ei hadnabod fel Llanwern.
  • 1967: Sefydlu cwmni British Steel a gwladoli`r diwydiant.
  • 1988: Preifateiddio British Steel, sy'n dod yn rhan o gwmni Corus o'r Iseldiroedd.
  • 2001: Corus yn cyhoeddi 6,000 o ddiswyddiadau yn y DU gan gynnwys 1,340 yn Llanwern a 90 ym Mryngwyn, Abertawe, ac mae ffatri ddur Shotton yn Sir y Fflint uyn cau gyda 400 o ddiswyddiadau.
  • 2002: Cau gwaith dur Glyn Ebwy gyda 850 o ddiswyddiadau er bod 300 wedi symud i ffatrïoedd eraill.
  • 2007: Corus yn cael ei brynu gan gwmni Tata Steel o India.
  • 2014: Tata'n beio trethi busnes uchel a chostau ynni am 400 o ddiswyddiadau ym Mhorth Talbot.
  • 2015: Tata yn dweud ei bod wedi bod yn flwyddyn "gythryblus" oherwydd dur rhad o China a chostau ynni uchel, ond ffatri Port Talbot yn cynhyrchu 4.19 miliwn tunnell o ddur, sy'n record. Ym mis Awst fe gaeoedd Tata rhan o ffatri Llanwern dros dro (a hynny am y trydydd tro mewn chwe blynedd) gan arwain at 250 o ddiswyddiadau.

Ffynhonnell y llun, Bernard/Fox/Getty

Disgrifiad o'r llun, Gweithiwr yn 1961 yn mesur dur

Y gymuned

Mi weithiodd Tony Taylor sydd yn gynghorydd lleol ar y safle am 44 o flynyddoedd. Mae o erbyn hyn wedi ymddeol.

"Port Talbot yw'r gweithfeydd dur a'r gweithfeydd dur yw Port Talbot. Os fydd y gwaethaf yn digwydd i'r lle, mi fydd yr effaith yn ysgytwol ar y dref. Mi fydd hi yn dref wag," dywedodd cyn y cyhoeddiad ddydd Llun.

Mae'n dweud bydd yr effaith i`w deimlo yn ehanghach na Phort Talbot gan fod gweithwyr yn dod o sawl ardal o Gymru gan gynnwys y cymoedd, Abertawe a Phen y Bont.