Â鶹ԼÅÄ

Trefnwyr angladdau Ceredigion yn galw am newid y drefn

  • Cyhoeddwyd
AngladdFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae rhai trefnwyr angladdau yng Ngheredigion wedi galw am newid y drefn sy'n bodoli wrth ymateb i farwolaethau sydyn.

Ar hyn o bryd mae tri chwmni o ymgymerwyr yn casglu cyrff ar ran y crwner pan mae rhywun yn marw'n sydyn, ac yn cael eu talu am bob galwad.

Mae un yn ne Ceredigion, un yn y canol a'r llall yn y gogledd.

Y cwmnïau hyn sy'n gwneud y gwaith ers blynyddoedd ond mae'n ymddangos mai arferiad yw heb gytundeb na phroses dendro ffurfiol.

Dywedodd yr Aelod Cynulliad lleol, Elin Jones, wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru nad oedd y broses yn ddigon tryloyw ac nad oedd digon o degwch i gwmnïau eraill y sir.

Disgrifiad,

Gohebydd Â鶹ԼÅÄ Cymru Aled Scourfield holodd Elin Jones AC

Mantais annheg

Yn ôl Peter Evans, trefnydd angladdau yng Ngheredigion, roedd "pob sir arall yn wahanol" a'r gwaith delio â marwolaethau sydyn "yn cael ei rannu".

Honnodd fod y drefn yng Ngheredigion yn rhoi mantais annheg i'r tri chwmni sy'n gweithio ar ran y crwner.

"Naw gwaith allan o 10 fe fydd teuluoedd pobl sy'n marw yn sydyn yn mynd gyda'r trefnydd angladdau sydd wedi casglu'r corff ... ac, yn aml, dyw'r teulu ddim yn gwybod bod yna ddewis," meddai.

Cyngor Ceredigion sy'n talu cyflog Crwner Ceredigion, Peter Brunton, ac yn gyfrifol am ei benodi.

Mae prif weithredwr y cyngor, Bronwen Morgan, wedi cwrdd â chwmnïau sydd wedi ymgyrchu ers blynyddoedd i newid y drefn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Peter Evans yn honni bod y drefn bresennol yn rhoi mantais annheg i rai cwmnïau

Dywedodd y cyngor eu bod yn bwriadu gofyn am "drafodaeth bellach" gyda Mr Brunton ynglŷn â'r broses dendro ar gyfer cyflogi ymgymerwyr yn achos marwolaeth sydyn.

Serch hynny, mae'r cyngor yn pwysleisio y gall teulu ddewis cwmnïau gwahanol i ofalu am wasanaeth angladdol.

'Ddim yn dderbyniol'

Dywedodd Elin Jones AC: "Yr unig ateb 'dwi wedi llwyddo i ga'l i hwn gan y crwner yw bod y gyfundrefn hon wedi bod mewn lle ers nifer o flynyddoedd ... ei fod e yn bersonol yn hapus â'r gyfundrefn a'i fod e'n n teimlo nad oes angen newid hynny.

"Yn yr oes yma o dryloywder 'dwi ddim yn credu bod y math yna o agwedd yn dderbyniol."

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi ceisio cysylltu â'r crwner am ymateb.