Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Morgan Jones

  • Cyhoeddwyd
morgan

Yr wythnos yma y cyflwynydd Morgan Jones sy'n Ateb y Galw, wedi iddo gael ei .

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Clywed Band Trefor yn mynd o gwmpas y pentref yn canu carolau fore Nadolig yn y 70au cynnar.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Carrie Fisher yn Star Wars, ac ambell Bond Girl hefyd.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Baglu Silvio Berlusconi (oedd hefyd yn llywydd AC Milan) yn ddamweiniol yn ardal y wasg yn stadiwm San Siro, Milan.

Disgrifiad o’r llun,

"Un trwsgl ydi'r Morgan Jones 'na!"

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Dwi'n gr'adur emosiynol, yn crio ar ddim, ond gesh i dri dwrnod o grio chwerthin efo criw o ffrindiau ar benwythnos stag yn Oktoberfest Munich - deud dim mwy!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Seiclo gormod (yn ôl fy ngwraig)

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Allan ar y môr mewn caiac o dan Glogwyn y Morfa a Mynyddoedd yr Eifl - fy hoff le yn y byd hefyd!

Disgrifiad o’r llun,

Pen LlÅ·n o'r Eifl

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Dwi wedi cael y fraint o fod mewn llawer o bartion diwedd tymor pencampwyr pêl-droed ar y cyfandir dros y blynyddoedd. Roedd perfformio efo'r band yn y Bruce Arena, Milwaukee, yn wefreiddiol hefyd. Ond roedd noson o farbeciw bwyd môr ar draeth ym Mauritius efo'r teulu ddiwedd Awst yn anfarwol.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Gŵr, tad, gwladgarwr.

Beth yw dy hoff lyfr?

'Mêt y Mona' gan R. Lloyd Jones. Mae'r hen nofel anturus forwrol hon i blant yn mynd â fi'n ôl i fy mhlentyndod bob amser.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Fy hen Crocs ffyddlon. Maen nhw mor amlbwrpas - delfrydol i gaiacio yn yr haf a gweithgareddau'r traeth, a chyfforddus fel slipars yn y gaeaf.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

James Bond - Spectre.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Bryn Fôn - un arall sydd wedi cael ei fagu mewn ardal chwarelyddol ddifreintiedig uniaith Gymraeg yn sir Gaernarfon, fel finna. Cerddor, a ffan o bêl-droed hefyd.

Dy hoff albwm?

Coldplay X&Y.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn a beth fyddai'r dewis?

Prif gwrs - cimwch Trefor ar farbeciw efo olew garlleg, coriander a chillies coch.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Carwyn Jones - er mwyn ymgyrchu o ddifrif i ailsefydlu'r Gymraeg fel prif iaith Cymru, i addysgu'n plant i fod yn falch o'u hunaniaeth a'u hanes, a dileu enwau Saesneg ar lefydd yng Nghymru.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Malcolm Allen.

Disgrifiad o’r llun,

Be? Ti'm o ddifri Morgan... Fi i ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw??