Â鶹ԼÅÄ

Rhoi organau: Newid y drefn

  • Cyhoeddwyd
llawdriniaeth trawsblannu organ

Mae cyfraith newydd yn dod i rym yng Nghymru ar 1 Rhagfyr sy'n golygu fod pob oedolyn sydd wedi byw yma am o leia flwyddyn yn cael ei ystyried yn barod i roi organau oni bai ei fod yn datgan gwrthwynebiad.

Cymru yw'r wlad gyntaf ym Mhrydain i fabwysiadu trefn o'r fath.

Yn ôl y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford fe fydd y newid yn arwain at "chwyldro" o ran y broses, a'i obaith yw y bydd y newid yn cynyddu nifer yr organau all gael eu defnyddio i drawsnewid bywydau cleifion sy'n ddifrifol wael.

Y llynedd bu farw 14 o gleifion yng Nghymru tra'n aros am organ newydd. Ar hyn o bryd mae 224 o bobl, yn cynnwys wyth plentyn, yn aros am drawsblaniad.

Yr amcangyfrif yw y gallai'r newid olygu cynydd o tua 25% yn y nifer sydd yn rhoi organau ar ôl marw.

Cynnydd cymharol fach

Oherwydd mai dim ond nifer fechan o bobl sy'n marw mewn amgylchiadau sy'n addas er mwyn rhoi'u organau - mewn uned gofal dwys ysbyty, er enghraifft - dim ond cynnydd cymharol fach sy'n cael ei ddisgwyl yn y nifer o organau all gael eu trawsblannu.

Gobaith Llywodraeth Cymru yw y bydd y system yn golygu 15 o roddwyr ychwanegol y flwyddyn, yn cyfrannu hyd at 45 o wahanol organau ychwanegol.

Ond fydd pob organ ddim o reidrwydd yn aros yng Nghymru - fe allen nhw gael ei trosglwyddo i gleifion ar draws Prydain.

Yn ystod y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf ers i'r ddeddfwriaeth gael ei chymerdwyo o fwyafrif sylweddol yn y Cynulliad Cenedlaethol, mae 'na ymgyrch gyhoeddusrwydd eang wedi bod i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â'r newidiadau.

Mae'r arolwg barn diweddara yn awgrymu fod 69% o bobl yng Ngymru yn ymwybodol o'r newidadau - ac wyth allan o 10 o'r rheiny yn gallu esbonio'r drefn newydd.

Efelychu Sbaen

Disgrifiad,

Rhoi organau: Dilyn trywydd y Sbaenwyr?

Wrth gyflwyno'r system, mae Cymru yn efelychu gwledydd fel Sbaen.

Sbaen sydd â'r gyfradd uchaf o roddwyr organau yn y byd.

Ond yn ôl arbenigwyr yno - nid y gyfraith yn unig sy'n gyfrifol am y llwyddiant - yn hytrach, mae nhw'n awgrymu fod hyfforddi arbenigwyr a buddsoddi mewn gwelyau gofal dwys wedi bod yn bwsyicach.

Fe ddaeth tasglu yn 2008 i gasgliad digon tebyg - gan argymell peidio newid y gyfraith ym Mhrydain - ond canolbwyntio yn hytrach ar annog pobl i fod yn roddwyr a phenodi rhagor o staff arbenigol mewn ysbytai.

Ar flaen y gad

Disgrifiad,

Cathy Rumbelow yw un o nyrsys arbenigol Ysbyty Glangwili

Mae Cathy Rumbelow yn gweithio fel nyrs arbenigol rhoi organau (SNOD) yn Ysbyty Glangwili.

Ymysg ei dyletswyddau, mae'n gyfrifol am drafod y broses gyda theuluoedd cleifion all fod â'r gallu i roi organau wedi iddyn nhw farw.

Bu hi'n egluro ei gwaith o ddydd i ddydd.

Gwrthwynebiad

Wrth i'r ddeddfwriaeth gael ei llunio - roedd 'na wrthwynebiad gan rai sefydliadau, gan gynnwys mudiadau ffydd.

Roedd rhai yn poeni y byddai newid y drefn yng Nghymru yn tanseilio'r egwyddor mai rhodd pwrpasol ddylai organ fod.

Roedd eraill yn pryderu y byddai newid y drefn yn golygu y byddai mwy yn tynnu'u henwau oddi ar y gofrestr rhoi nag y byddai'n ymuno.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, dyw hynny ddim wedi digwydd.

Barn teulu?

Ond efallai y pwnc mwyaf dadleuol oll ynglŷn â'r newid hwn yw i ba raddau ddylai teuluoedd gael dweud ei dweud ynglŷn â'r hyn sy'n digwydd i organau eu hanwyliaid?

Ym Mhrydain, mae dros 40% o deuluoedd yn gwrthod caniatáu i organau gael ei rhoi - a hynny yn groes i ewyllys yr unigolyn - tra bod eraill yn amharod i gytuno oherwydd nad oedden nhw'n sicr o ddymuniadau'r claf.

Dan y drefn newydd fydd gan y teuluoedd ddim veto - ond yn ôl y Gweinidog Iechyd, fydd organau ddim yn cael eu cymryd cyn siarad â'r teulu.

Mewn gwirionedd mae'n anhebygol y bydd organau yn cael eu cymryd os yw hynny'n debygol o greu loes neu ofid i'r teulu.

Y nod yn y bon yw ceisio'n hannog ni i gyd i drafod rhoi organau ac i nodi'n dymuniadau yn glir.

Os digwydd hynny, yn ôl cefnogwyr, fe fydd yr ymdrech a'r newid yn werth ei wneud.