Â鶹ԼÅÄ

Mae e tu ôl i chi!

  • Cyhoeddwyd

Mae'n un o draddodiadau'r Dolig i lawer. Fyddwch chi 'n mynd i weld pantomeim dros y dyddiau nesaf neu falle eich bod chi eisoes wedi bod i'r theatr ac wedi joio mas draw.

Ar un adeg roedd Cwmni Theatr Cymru yn teithio ar hyd a lled y wlad gyda phantomeim blynyddol. Ydych chi'n cofio rhai o'r cynhyrchiadau yma? Mae Cymru Fyw yn diolch i Archifau Gwynedd am gael dangos y lluniau.

Disgrifiad o’r llun,

Mawredd Mawr: Dylan Jones fel y Brenin Cwallter Caswallon a Beryl Hall fel y Frenhines Martha

Disgrifiad o’r llun,

Gweld Sêr (1972): Grey Evans fel y Dewin Gwyrdd a Iona Banks fel y Wrach Ddu

Disgrifiad o’r llun,

Cast Mwstwr yn y Clwstwr: Ifan Huw Dafydd fel Abram Cadabram, Dilwyn Young Jones fel Cai, Sioned Mair fel Serian, Grey Evans fel Y Brenin Lwni, Sian Wheldon fel Aderyn, Marion Fenner fel Grisial, Gari Williams fel Micos a Gwen Ellis fel Mrs Lloerig

Disgrifiad o’r llun,

Rhywbeth cyffrous yn amlwg yn digwydd yn ystod Mwstwr yn y Clwstwr

Disgrifiad o’r llun,

Cast Guto Nyth Cacwn

Disgrifiad o’r llun,

Golygfa o Guto Nyth Cacwn gyda Janet Aethwy, Gwen Ellis a Cefin Roberts

Disgrifiad o’r llun,

Cast Madog gyda Iona Banks ar ganol y llwyfan fel y wrach

Disgrifiad o’r llun,

Madog, 1976: Y cast gyda Bryn Williams fel Madog

Disgrifiad o’r llun,

Afagddu, 1975: J O Jones fel Morda, Valmai Jones fel Llew Capie ac Iestyn Garlick fel Afagddu

Disgrifiad o’r llun,

Golygfa gloi Afagddu gyda Iestyn Garlick yn canu ar ganol y llwyfan

Disgrifiad o’r llun,

Felly pwy yw'r dyn yn y ffrog yn Rasys Cymylau?

Disgrifiad o’r llun,

Jac y Jyngl, 1977: Nia Ceidiog a Valmai Jones fel Hawys a Hywel

Disgrifiad o’r llun,

Mei Jones fel Jac, Wyn Bowen Harries fel Blodwen Taibach a Cefin Roberts fel Syr Powys ap Tudno Le Grand yn Jac y Jyngl