Datgelu adroddiad: Uned Hergest mewn 'sefyllfa ddybryd'

Mae adroddiad oedd yn dweud fod uned iechyd meddwl yn y gogledd mewn "sefyllfa ddybryd" a bod safon y gofal yno'n "bryderus" wedi ei gyhoeddi - ddwy flynedd ar ôl iddo gael ei ysgrifennu.

Mae ACau weld gweld crynodeb o'r adroddiad am Uned Hergest yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor, gafodd ei lunio ym mis Ionawr 2014.

Dywedodd un aelod ei bod yn "anhygoel" nad oedd y ddogfen wedi cael ei rhannu'n gynharach.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, maen nhw wedi mynd i'r afael â'r problemau a nodwyd ac mae rheolaeth gwasanaethau iechyd meddwl wedi'i ailstrwythuro.

Yn dilyn ymchwiliad arall i ward iechyd meddwl Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd, penderfynodd Llywodraeth Cymru roi'r bwrdd dan fesurau arbennig.

Cafodd adolygiad o uned seiciatryddol Hergest ei gynnal yn dilyn cwynion gan staff yn 2013.

'Trafferthion mawr'

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei roi dan fesurau arbennig yn dilyn ymchwiliad i uned Tawel Fan

Derbyniodd un o bwyllgorau'r Cynulliad gopi o grynodeb o'r adroddiad wedi ei ailolygu ddydd Llun.

Yn ôl yr awdur, Robin Holden, ar wahan i un ward, roedd yr uned mewn "trafferthion mawr" ar y pryd.

Dywedodd ei bod yn anochel fod gofal cleifion yn dioddef oherwydd fod y berthynas rhwng staff "wedi torri i lawr".

Ychwanegodd: "Mae'r llwybrau cyfathrebu'n ddifrifol o wan ac er bod adroddiadau cyson gan reolwyr yn dod o'r wardiau, mae'n rhaid gofyn a ydy'r rhain yn adlewyrchiad teg o'r safon gofal pryderus sy'n cael ei gynnig a'r lefel cynhenid o risg clinigol."

'Mater cyfrinachol'

Wrth roi tystiolaeth i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad ddydd Mawrth, dywedodd cadeirydd a phrif weithredwr dros dro'r bwrdd na allen nhw gadarnhau a oedd yr adroddiad wedi ei ddangos i Lywodraeth Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar ôl iddo gael ei ysgrifennu.

Dywedon nhw fod yr ymchwiliad wedi ei drin fel "mater cyfrinachol" wedi i staff leisio'u pryderon.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Darren Millar AC ei bod yn "rhyfedd iawn" na chafodd y wybodaeth ei rhannu

Dywedodd yr AC Ceidwadol, Darren Millar, cadeirydd y pwyllgor: "Mae'n glir iawn bod yna amheuon difrifol am uned iechyd meddwl arall yn y gogledd mor bell yn ôl a mis Ionawr 2014.

"Pan ydych chi'n ystyried effaith cynyddol y materion hyn, pan ydych chi'n ychwanegu at hynny yr hyn oedd yn digwydd yn Nhawel Fan, ddaeth i'r wyneb yn ddiweddar, rydych chi'n gofyn i'ch hun a oedd yr hyn oedd yn mynd ymlaen o fewn rheolaeth y bwrdd iechyd."

Ychwanegodd: "Mae'n rhyfedd iawn i mi na chafodd y wybodaeth hon na'r adroddiadau eu rhannu gyda'r arolygaeth gofal iechyd a Llywodraeth Cymru."

'Ailstrwythuro syflaenol'

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fod adroddiad Holden yn "adolygiad ac asesiad annibynnol gwerthfawr o'r materion a oedd yn achos pryder i staff ar y pryd".

"Nododd yr adroddiad fod y berthynas rhwng staff rheng flaen a'r rheolwyr wedi methu ar rai wardiau.

"Ers cwblhau'r adroddiad a'i gyflwyno i'r bwrdd ddwy flynedd yn ôl, mae camau wedi eu cymryd i ymateb i'r argymhellion.

"Mae trefniadau rheoli gwasanaethau iechyd meddwl y bwrdd wedi eu hailstrwythuro'n sylfaenol, gydag unigolion newydd wedi eu penodi i rai o'r swyddi clinigol a rheoli uchaf.

"Mae gwasanaethau iechyd meddwl yn un o'r meysydd lle mae'r bwrdd yn cael cymorth allanol o dan y mesurau arbennig, sy'n sicrhau y gellir adeiladu a chryfhau ar y gwelliannau eisoes wedi eu cyflwyno."