Sêr ifanc y sgrin fach

Mae'r Nadolig yn gyfnod cynhyrfus i bawb, ond yn enwedig felly i blant.

Dyma gipolwg ar rai o sêr ifanc sgrin fach Cymru a golwg ar ble maen nhw heddiw.

Tybed faint o'r rhain ydych chi'n eu cofio...

Nicw Nacw (Neil Roberts)

Roedd cyfres deledu 'Caffi Sali Mali' ymysg y mwyaf poblogaidd ymhlith plant Cymru yn y 90au. Un o'r ieuengaf yn y cast oedd Nicw Nacw, sy'n aros yn y cof oherwydd ei aeliau mawr tywyll a'r sbotiau smal ar ei foch.

Neil Roberts, neu "Nicw" fel mae'n dal i gael ei alw, oedd yn chwarae rhan y bachgen bach, ac mae bellach yn ddylunydd graffeg sydd wedi gweithio gyda rhai o sêr Manchester United.

Mae hefyd yn reolwr ar ganolfan chwarae i blant yng Nghaernarfon ac yn gefnogwr brwd o'r Red Devils.

Jini Mê Jones (Lowri Esyllt)

Ffynhonnell y llun, Recordiau Sain/Lowri Esyllt

Roedd 'Anturiaethau Jini Mê' yn dilyn hynt a helynt y ferch fach ddireidus o'r un enw.

Mae Lowri Esyllt Wynn Jones bellach yn 33 oed, ac mae hi'n meddwl ei bod hi'n rhyfedd fod pobl yn dal i'w chofio a'i hadnabod.

"Mi oedd bod ar y rhaglen yn brofiad anhygoel," meddai. "Doedd o'm yn teimlo fel actio, bron iawn fel cael caniatâd i fod yn ddireidus! Mi o'n i'n lwcus iawn i gael gweithio gydag actorion gwych ac eiconig fel Mici Plwm a Valmai Jones.

"Mi es i ar wyliau i Awstralia tair blynedd yn ôl a phenderfynu aros! Dwi rŵan yn is-reoli tafarn brysur yng Nghaerdydd."

Kenneth Parry (Sion Trystan)

Ffynhonnell y llun, Recordiau Sain/Cinel Gabran Management

Daeth Sion Trystan yn adnabyddus am chwarae'r brif rhan yn y ffilm 'Porc Pei', ac yna yn y gyfres gomedi boblogaidd ddaeth yn sgil honno, 'Porc Peis Bach'.

Roedd y gyfres wedi ei lleoli mewn pentref yng ngogledd Cymru yn y 60au ac yn dilyn bywyd Kenneth Parry, mab drygionus y gweinidog lleol, y Parchedig Donald Parry (Wynford Ellis Owen).

Mae Sion, sydd bellach yn 31 oed, yn gweithio fel swyddog ieuenctid i Fenter Môn erbyn hyn.

Joni Jones (Richard Love)

Ffynhonnell y llun, Recordiau Sain/Cwmni Da

'Nôl yn 1982, daeth Joni Jones ar ein teledu fel ffilm yn dilyn hanes bachgen ifanc mewn pentref yng ngogledd Cymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Richard Love oedd yn chwarae'r brif ran, ac mi ddywedodd ar raglen 'Lle aeth pawb?: Joni Jones' ar S4C yn ddiweddar ei fod wedi dioddef gyda'r sylw a ddaeth yn sgil actio'r rhan, ond ei fod bellach yn fodlon ei fyd.

Dafydd Huws a Gwenllian Angharad (Dafydd Hughes a Gwawr Hughes)

Mae'r ddau yma'n rhy ifanc i fod wedi ymddangos yn C'mon Middfîld meddech chi. Rydych chi bron yn iawn!

Nhw oedd efeilliaid George Huws a Sandra Picton yn y gyfres gomedi eiconig 'C'mon Midffîld' ar ddechrau'r 90au.

Mae Dafydd Fôn Hughes bellach yn beirianydd sifil, a Gwawr Fôn Hughes yn nyrs mewn uned arennau yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Maen nhw'n efeilliaid ac y ddau ohonyn nhw yn 23 oed erbyn hyn, coeliwch neu beidio.

David Lloyd George (Tudur Dylan)

Cyn iddo ddod i amlygrwydd fel prifardd, fe driodd Tudur Dylan ei lwc yn y byd teledu - am gyfnod byr o leia'. Daeth yr ymddangosiad prin yma mewn cyfres Â鶹ԼÅÄ o'r enw 'The Life and Times of David Lloyd George' yn 1981.

Heddiw, mae'n athro Cymraeg yn Ysgol Y Strade, Llanelli, yn gadeirydd Yr Urdd, yn gyn Fardd Plant Cymru, yn ogystal â chadeirio Ymryson y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers rhai blynyddoedd.

Plant 'Hapus Dyrfa'

Ffynhonnell y llun, S4C

Comedi deuluol oedd 'Hapus Dyrfa' ac fe gafodd ei darlledu rhwng 1990 a 1992. Roedd Caryl Parry-Jones a Dewi Pws Morris yn ceisio cadw trefn ar yr plant a'u mamau yn ogystal a'u cymdogion.

O'r plant, mae Arwel Davies (trydydd o'r chwith) bellach yn fwy adnabyddus fel cymeriad Eifion yn opera sebon 'Pobol y Cwm', tra bod Aled Pugh (trydydd o'r dde) yn gyfarwydd i ffans 'Stella', 'Gwaith/Cartref' ac 'Alys'.

Disgrifiad o'r llun, Arwel Davies ac Aled Pugh

Mair (Elain Llwyd)

Mae'n debyg fod yr actores a'r gantores Elain Llwyd wedi hen arfer gwisgo i fyny.

Bellach yn adnabyddus i blant ledled y wlad fel y cymeriad teledu Dona Direidi, ymddangosodd ar ein sgriniau teledu 'nôl yn 1997 yn y ffilm 'Y Mynydd Grug', yn seiliedig ar gasgliad o straeon byrion gan Kate Roberts, 'Te yn y Grug'.

Bydd Elain yn chwarae un o'r prif rannau yng nghynhyrchiad diweddara' Theatr Genedlaethol Cymru, 'Chwalfa', fydd yn cael ei lwyfannu yng nghanolfan Pontio ym Mangor ddechrau 2016.