Â鶹ԼÅÄ

Pencadlys Â鶹ԼÅÄ Cymru: Hwb o £1bn i'r economi

  • Cyhoeddwyd
cynlluniau Â鶹ԼÅÄFfynhonnell y llun, Rightacres Property

Bydd symud pencadlys Â鶹ԼÅÄ Cymru o Landaf i ganol Caerdydd yn hwb o £1bn i'r economi yn y 10 mlynedd nesaf, yn ôl adroddiad.

Mae'r adroddiad gan grŵp ymgynghori BOP i Â鶹ԼÅÄ Cymru, yn nodi y bydd penderfyniad y gorfforaeth i symud i'r Sgwâr Canolog yn 2019 yn cyflymu proses adfywio'r ardal.

Oherwydd y cynllun, meddai'r adroddiad, mae rhagor o gyfleoedd swyddi ar gael ar y safle, a hynny ynghynt na'r disgwyl.

Fe gafodd y cynllun ei gymeradwyo'n llawn ddydd Llun.

"Mae'r hwb economaidd hwn sydd yn werth £1bn yn tanlinellu'r gwahaniaeth y gall Â鶹ԼÅÄ Cymru ei wneud," meddai Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr Â鶹ԼÅÄ Cymru.

"Rydym yn gadael safle mawr, aneffeithlon yn Llandaf ac yn symud i ofod llai sy'n fwy cost-effeithiol yn Sgwâr Canolog oherwydd bod angen i ni weithio'n glyfrach ac yn fwy effeithiol.

"Ond mae'r fantais gwerth £1.1 biliwn sy'n cael ei sbarduno gan y symudiad yn hwb mawr i'r economi ac ar gyfer y bobl sy'n byw yma."

Mae cwmni Taylor Wimpey wedi gwneud cais cynllunio i adeiladu hyd at 400 o gartrefi ar safle'r pencadlys presennol yn Llandaf.