Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Y Brodyr Gregory

  • Cyhoeddwyd
Y Brodyr Gregory

'Dych chi'n cael bargen yr wythnos hon yn Ateb y Galw. Am y tro cyntaf mae Cymru Fyw yn holi dau westai ar ôl Paul ac Adrian Gregory - Y Brodyr Gregory.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Paul: Mynd ar drip ysgol Sul i Borthcawl o Glanaman ar un o'r trenau hen ffasiwn - dyddiau da.

Adrian: Chwarae yn y tywod yn Ysgol Gynradd Glanaman.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Paul: Elisabeth Bevan, merch Prifathro Ysgol Gynradd Glanaman, a pan o'n i'n hÅ·n, y fodel Twiggy.

Adrian: Athrawes yn Ysgol Ramadeg Rhydaman.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Paul: O'n i'n ffilmio clip ar gyfer y teledu lle roedd Adrian wedi dwyn fy nhrowsus i ac o'n i'n gorfod eu rhwygo nhw bant.

Rhai felcro odden nhw, a phryd tynnais i nhw ffwrdd daeth ei focsers i ffwrdd hefyd. Diolch byth roedd trôns bach eraill ganddo o danodd.

Adrian: Gofyn i ferch pryd oedd hi'n disgwyl y babi a chael yr ateb - "Dydw'i ddim yn feichiog". Sori, sori, sori.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Paul: Gwylio rhaglen Plant Mewn Angen.

Adrian: Genedigaeth fy wyres Myfi Deiniol dair wythnos yn ôl.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Paul: Gadael drysau y tÅ· ar agor, a'r wraig yn gorfod fy nilyn i i'w cau nhw.

Adrian: Siarad yn uchel ar y ffôn symudol.

Ffynhonnell y llun, olly
Disgrifiad o’r llun,

Gweiddi ar y ffôn, un o wendidau Adrian

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Paul: Dinbych y Pysgod. Atgofion melys o fynd yno yn blentyn, pan o'n i'n caru ac ers cael teulu ifanc fy hun.

Adrian: Tair Carn, ar ochr Y Mynydd Du uwchben Glanaman yn edrych draw at Gastell Carreg Cennen. Godidog.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Paul: Ennill 'Cân i Gymru' yn 1993. Roedd y safon yn arbennig o uchel y diwrnod hwnnw felly roedd ennill y gystadleuaeth yn braf iawn.

Adrian: Yn gwylio Rod Stewart yn Caesars Palace, Las Vegas.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Paul: Amyneddgar, cydwybodol a phenderfynol.

Adrian: Brwdfrydig, cyfeillgar a gweithgar.

Disgrifiad o’r llun,

Paul ac Adrian yn y 1990au

Beth yw dy hoff lyfr?

Paul: Y Geiriadur - mae ei angen o arna i!

Adrian: Y Geiriadur.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Paul: Fy nghot ledr - dwli arni.

Adrian:Slippers!

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Paul: 'Spectre' - y ffilm James Bond newydd- eitha' siomedig i fod onest.

Adrian: 'The Intern' gyda Robert de Niro ac Anne Hathaway.

Mewn ffilm o dy fywyd pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Paul: Dustin Hoffman. Mae e tua'r un taldra ac mae'n gymeriad ddigon tebyg.

Adrian: Dustin Hoffman.

Dy hoff albwm?

Paul: 'Dark Side of the Moon' gan Pink Floyd. Clasur o albwm sydd wedi dylanwadu ar gymaint o gerddorion.

Adrian: 'Bridge Over Troubled Water' gan Simon & Garfunkel a 'Dim ond Cysgodion' gan Meic Stevens.

Disgrifiad o’r llun,

Y Brodyr Gregory ar Noson Lawen yn 2055?

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?

Paul: Prif gwrs - cinio dydd Sul.

Adrian: Pwdin bob tro.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Paul: Dydw i ddim yn petrol head o gwbl ond byddwn i'n dewis The Stig o'r rhaglen 'Top Gear'. Byddwn i wrth fy modd yn cael gyrru'r ceir anhygoel 'na.

Adrian: Gareth Edwards ar daith y Llewod i Seland Newydd yn 1971.

Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Adrian a Paul: Sara Lloyd-Gregory

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Brodyr Gregory yn dal i ddenu cynulleidfaoedd newydd... ac Angharad Mair!