Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Gethin Evans

  • Cyhoeddwyd
geth evs

Y cyflwynydd a chyn-aelod y band Genod Droog, Gethin Evans, sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma wedi iddo .

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Dwi'n cofio bod mewn parti yn ein fflat yn Nhremadog. Roedd mam a dad 'di mynd all out a rhoi bulbs coch o gwmpas y tŷ. Wrth edrych yn ôl mi oedd y tŷ yn teimlo fel rh'wla yn y red light district yn Amsterdam.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Eshi drwy gyfnod o ffansio Caryl Parry Jones am tua wythnos pan o'n i tua wyth oed... Ond does 'na neb gwell na Kelly Le Brock. Os wasgwch chi pause 88 munud a 45 eiliad i fewn i 'Lady in Red', 'newch chi weld mwy na sa chi'n obeithio o Kelly Le Brock.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Ro'n i o hyd yn galw athrawon ysgol gynradd yn "Mam" ar ddamwain. Hyd yn oed Mr Kirkope.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Mi oedd 'na gyfres o'r enw 'Secret Millionaire' ar Channel 4 rhai blynyddoedd yn ôl. Mi roedd y rhaglen yna yn cael effaith arna' i fel mae 'Long Lost Family' neu 'Surprise Surprise' yn ei gael ar ddynes canol oed.

Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na lot o hwyl i'w gael yng nghwmni Gethin a'i gyd-gyflwynydd Geraint Iwan ar Radio Cymru pob nos Wener

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Oes, camsiballu.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Pont Nanmor. Bendihyfryd.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Mi ges i un noson fythgofiadwy yn Sydney, lle ddiweddodd y noson gyda fi a fy ffrind yn canu ar adeilad Nestlé.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Ddim yn siŵr.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gethin yn rhan o'r band Kentucky AFC yn ogystal â'r Genod Droog

Beth yw dy hoff lyfr?

'Are you Dave Gorman?', llyfr gan y digrifwr Dave Gorman yn chwilio am Dave Gormans eraill.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Trôns fy nhad.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Ffilm ddogfen am theatr yr Old Vic yn Llundain yn teithio'r byd hefo Richard lll. Pretentious ond da.

Mewn ffilm o dy fywyd, pa actor fyddai'n chwarae dy ran di?

Gwyndaf o 'Pobol y Cwm'.

Dy hoff albwm?

Heddiw - 'Moon Safari' gan Air, band o Ffrainc.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?

Prif gwrs.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Fasa Vince Neil o'r band Mötley Crüe ar eu hanterth yn 80au yn un diddorol. Ma' 'The Dirt', llyfr am eu bywyd nhw, yn agoriad llygad. Tydi canu ar adeilad Nestlé ar ddiwadd noson ddim yn dod agos iddi.

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Y Brodyr Gregory

Disgrifiad o’r llun,

Y Brodyr Gregory: Dylanwad mawr ar Geth a Ger?