Â鶹ԼÅÄ

Edrych 'nôl ar Rownd a Rownd

  • Cyhoeddwyd

Efallai bod rhai o wylwyr selog y gyfres boblogaidd Rownd a Rownd yn ymwybodol ei bod yn dathlu'i phenblwydd yn 20 oed eleni.

Ar drothwy'r gyfres newydd sy'n cychwyn nos Fawrth, dyma gasgliad o luniau o'r archif. Ydych chi'n cofio rhai o'r wynebau yma? Diolch i S4C am y lluniau:

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd pennod gyntaf 'Rownd a Rownd' ei darlledu ar 11 Medi 1995. Roedd y gyfres wedi'i seilio ar rownd bapur, gyda Ffion (canol) yn benderfynol o ddilyn olion traed ei brawd, Dylan (chwith). Nia (ar y dde) oedd un o wynebau cyfarwydd cynta'r caffi.

Disgrifiad o’r llun,

Dylan (Emyr Prys Davies) a Ffion (Fflur Medi) oedd dau o brif gymeriadau'r blynyddoedd cynnar. Mae Emyr bellach yn aelod o fand Yws Gwynedd, tra bod Fflur yn gwneud comedi 'stand-yp' o dro i dro.

Disgrifiad o’r llun,

Dewi Pws oedd yn chwarae rhan Islwyn Morgan, perchennog y siop bapur, am 12 mlynedd o ddechrau'r gyfres gyntaf hyd at 2007. Yn fwy diweddar mae wedi bod yn chwarae rhan Mal Harries yn y gyfres 'Lan a Lawr' ar S4C.

Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd 'Rownd a Rownd' fel penodau chwarter awr a oedd yn cael eu darlledu ddwywaith yr wythnos. Sneips (chwith) a Mal oedd rhai o gymeriadau mwyaf direidus y gyfres.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gyfres wedi ei lleoli ym Mhorthaethwy, Ynys Môn. O'r chwith i'r dde: Ffion, Meical, Eifion, Guto, Nia a Glenda 'BCG'.

Disgrifiad o’r llun,

Ari Stiffs a Mei oedd dau o brif gymeriadau'r cyfresi cyntaf yng nghanol y 90au.

Disgrifiad o’r llun,

Ymunodd yr actor Owain Arthur (chwith) gyda 'Rownd a Rownd' ar ddiwedd y 90au. Mae bellach wedi gwneud enw iddo'i hun yn y West End gan serennu yn y sioe gerdd 'One Man, Two Guvnors'.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lisa Jên Brown (chwith), neu Emma fel oedd hi yn y gyfres, bellach yn fwy adnabyddus fel prif leisydd y band 9Bach, tra bod Nia Cerys - a oedd yn chwarae rhan Toni - yn rhan o dîm Cymru Fyw erbyn hyn.

Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith i'r dde: Caryl (Ann Roberts); Haf (Heledd Lewis); Kelvin (Kevin Williams); Klaire (Ffion Llwyd); Cadi (Mirain Haf); ac Osian (Iddon Alaw).

Disgrifiad o’r llun,

Dyma driongl serch cynta' Cilbedlam - Awel, Mei a Lowri Mai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r athro Addysg Gorfforol, Jim 'Gym' (Iestyn Garlick), bellach wedi cael dyrchafiad i fod yn bennaeth yr ysgol, tra bod Catherine (Sian Beca) yn gweithio'n Copa - yr hen Q's. Mae Huw (Danny Wyn), Pat (Ruth Lloyd) a Gemma (Heledd Anna) bellach wedi dychwelyd i Abertawe...ar y rhaglen.

Disgrifiad o’r llun,

Meical (Emyr Gibson) yn 'modelu' gyda Eifion (Martin Thomas). Mae Emyr yn dal yn y gyfres ac mae'n aelod o'r grŵp Trio. Ers gadael 'Rownd a Rownd' mae Martin wedi ymddangos yn y gyfres ddrama '35 Diwrnod' ar S4C.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Manon a Menna - efeilliaid eiconig y gyfres - ond pa un yw pa un?

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ari Stiffs (yn y blaen) yn fab i'r trefnwr angladdau Bryn, sydd i'w weld yma gyda'i wraig Edwina, a brawd bach annisgwyl i Ari.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl teulu wedi mynd a dod yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf gan gynnwys Michelle a'r criw. O'r chwith i'r dde: Nain, Dani, Michelle, Britney, Jonathan, a Sheree.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y 1,000fed bennod o'r gyfres ei darlledu ar nos Fawrth, 14 Ionawr 2014. Dyma'r cast yn dathlu'r Nadolig yn y dyddiau cynnar.

Disgrifiad o’r llun,

Merched y salon. Mae'r siop trin gwallt wedi newid dwylo - ac enw - sawl gwaith ers dyddiau Crib Goch. Mae Sophie (canol) yn dal i weithio yno hyd heddiw.