Â鶹ԼÅÄ

Côr Glanaethwy: Britains Got Talent wedi camarwain

  • Cyhoeddwyd
BGT
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillwyd y gystadleuaeth gan Jules O'Dwyer a Matisse y ci

Mae cynhyrchwyr rhaglen deledu Britain's Got Talent wedi ymddiheuro am gamarwain gwylwyr ynglŷn â pherfformiad enillydd y gystadleuaeth eleni.

Cafodd cynhyrchwyr y rhaglen eu beirniadu ar ôl iddyn nhw gyfaddef bod enillydd y gystadleuaeth, Jules O'Dwyer, wedi defnyddio ci ychwanegol yn ystod rhan o'i pherfformiad buddugol, gan nad oedd ei chi arferol 'Matisse' yn gallu cwblhau'r triciau.

Fe ddaeth Côr Glanaethwy o Wynedd yn drydydd yn y gystadleuaeth, y tu ôl i'r enillydd Jules O'Dwyer, a Jamie Raven. Côr Glanaethwy oedd ffefrynnau'r bwcis i ennill y gystadleuaeth.

Yn dilyn y rhaglen bu nifer o gefnogwyr Côr Glanaethwy yn mynegi eu siom ynglŷn â'r canlyniad - yn enwedig gan fod yr enillydd wedi "camarwain" y gynulleidfa ynglŷn â pherfformiad "Matisse".

Mynnodd Côr Glanaethwy nad oedden nhw yn siomedig gyda'r canlyniad, a'u bod wedi mwynhau'r gystadleuaeth.

Fe dderbyniodd Ofcom dros fil o gwynion ar y pryd.

Mae'n debyg fod ITV wedi cynnig ad-dalu gwylwyr a wnaeth bleidleisio i O'Dwyer.

Yn ôl y rheoleiddiwr darlledu OFCOM, roedd ITV yn euog o dorri'r côd darlledu, ond ni fydd y darlledwr yn wynebu dirwy neu gosb arall.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Côr Glanaethwy gynulliefa newydd ar gyfer eu perfformiadau trwy gyfrwng y rhaglen

Ffynhonnell y llun, ITV
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ci o'r enw Chase ei ddefnyddio yn un rhan o'r perfformiad buddugol