Coron Meifod i Manon Rhys

Disgrifiad o'r llun, Wrth goroni Manon Rhys ddydd Llun, dywedodd y beirniaid fod ganddi afael 'cwbl gadarn' ar iaith a thafodiaith

Manon Rhys sydd wedi cipio Coron Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau 2015.

Dan y ffugenw Jac, fe enillodd hi am gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn hyd at 250 o linellau ar y thema 'Breuddwyd'.

Y beirniaid eleni oedd Cyril Jones - oedd yn traddodi yn y pafiliwn ddydd Llun - Nesta Wyn Jones a Gerwyn Williams.

Roedd 22 o feirdd wedi cystadlu eleni. O'r feirniadaeth roedd hi'n amlwg ei bod yn gystadleuaeth glos, gyda chanmoliaeth fawr i waith mwy nag un bardd, a'r penderfyniad terfynol yn un y bu'n rhaid ei drafod yn ofalus.

'Anesmwytho'r darllenydd'

Wrth drafod y gwaith buddugol, dywedodd Cyril Jones: "Casgliad sy'n anesmwytho'r darllenydd yw hwn, gan ei fod yn archwilio'r tir neb rhwng breuddwyd a hunllef. Mae hyd yn oed arddull y cerddi'n cyfleu hynny gan fod pump ohonynt wedi'u hatalnodi a'r naw arall yn ddiatalnod a'u cywair yn pendilio rhwng darnau mwy ffurfiol a thafodiaith de orllewin Cymru.

"Dau brif gymeriad y casgliad yw'r fam a'i phlentyn a cheir yn y cerddi gymysgedd o elfennau megis colled a cholli pwyll, trais a marwolaeth, a'r rheini wedi'u cadwyno â theitlau sy'n ddywediadau diniwed y plentyn ond yn aml ag arwyddocâd sinistr iddynt; er enghraifft, 'odi cysgu wedi bennu nawr'.

"Mae gafael y bardd hwn ar ei iaith - a'i dafodiaith - yn gwbl gadarn. Dyma ddwy enghraifft o'r gerdd, 'wyt ti wedi gweld eira o'r blaen?': 'a choeden y Nadolig trist/ wrth y clawdd dan gladd gwyn/ fel breuddwyd heb ei thwtsh' a'r llinellau a ganlyn sy'n ateb cwestiwn y teitl: 'fe welais eira o'r blaen/ sawl haen a lluwch/ syfrdan eu disgleirdeb/ cyn salwyno'n sydyn/ mewn drycin ddu'.

"Mae'n defnyddio sawl techneg gynnil i greu dirgelwch ac arswyd. Mae'r gyfeiriadaeth, er enghraifft, yn arswydus o awgrymog ac yn tanio atgofion a meddyliau lled dywyll yn ein dychymyg. Yn y gerdd 'dere i whare cwato', ceir y llinellau: 'Un tro, ddiwedd Ebrill, Parc Machynlleth yn y gwyll/ Rhes o siglenni llonydd, llithren wag - a'r llwyni'n denu'. Ac efallai bod diweddglo'r gerdd 'un llaw fawr, un llaw fach': 'a gresyn nad o'n ni gartre ti na fi/ pan guron nhw'r gwydr coch', yn adleisio'n fwriadol y gân werin am y cariad yn 'curo'r gwydyr glas'. Pwy a ŵyr?

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Manon Rhys ei choroni gan un o'i ffrindiau agosaf, yr Archdderwydd Christine James

'Cyfleu natur ddarniog breuddwyd'

"Mewn sawl cerdd, hefyd, mae'n cymysgu'r enw 'drysi' a'r berfenw 'drysu' yn fwriadol ac yn cyfeirio'n aml at gymeriad bygythiol 'Jac y broga-gorryn'. Maen nhw'n cyfleu natur ddarniog breuddwyd i'r dim; darnau o'r un freuddwyd yw'r cerddi sy'n mynnu herio'n crebwyll wrth i ni geisio canfod patrwm a llinyn storïol - yr union deimlad a geir ar ôl dihuno a deall arwyddocâd breuddwyd hunllefus. Dyma gasgliad a fynnai ymdroi yn y cof a dychwelyd i anesmwytho a herio."

Yn enedigol o Gwm Rhondda, mae gwreiddiau Manon Rhys yn ardaloedd Aberaeron a Thregaron. Mae hi'n fam i Owain Rhys a Llio Mair Rhys, ac yn byw yng Nghaerdydd ers 30 mlynedd gyda'i gŵr, T. James Jones (Jim Parc Nest).

Mae hi'n awdur nifer o gyfrolau rhyddiaith, gan gynnwys y nofel Neb ond Ni . Mae wedi golygu nifer o gyfrolau, ac am 10 mlynedd bu'n cydolygu cylchgrawn llenyddol Taliesin gyda Christine James.

Bellach mae hi wrth ei bodd yng nghanol bwrlwm pump o wyrion a dwy wyres, gan elwa ar eu darluniau, eu doethinebau a'u dywediadau, gydag ambell un i'w clywed yn y cerddi buddugol.

Disgrifiad o'r fideo, Seremoni'r Coroni / Crowning Ceremony

'Emosiynol'

Wrth siarad wedi'r seremoni ddydd Llun, dywedodd Manon Rhys:

"Ro'n i'n emosiynol ar y llwyfan am nifer o ffactorau. Ro'n i'n eistedd ynghanol criw o wyrion a wyresau. Ma' nhw'n rhan o'r cerddi. Nhw ysbrydolodd y llinellau a'r syniadau. Ma' Christine yr Archdderwydd a finne'n ffrindiau agos ers blynyddoedd, ac roedd Jim, fy ngŵr drws nesa' iddi ar y llwyfan. Rhowch hynny at ei gilydd, a, wel…

"Roedd y testun yn heriol. Ro'n i am feddwl am ffordd newydd a heriol i'w ddadansoddi. Breuddwyd yw'r cyflwr mwya' dychmygus, mwya' creadigol sydd. All neb ddweud wrthoch chi fod eich breuddwyd yn amhosibl. Fe wnes i feddwl 'mlaen - dw i wedi cyrraedd rhyw oed erbyn hyn - lle 'dy ni'n meddwl be fydd yn digwydd i ni? Fyddwn ni'n colli'n cof? Fi sydd yn y cerddi. Fyddwn ni angen gofal o ryw fath yn y dyfodol? Alla' i ddim ond gobeithio y bydd fy wyrion a wyresau yno yn sbardun i mi.

A phan ofynnodd Cymru Fyw i'r Prifardd beth oedd hi'n bwriadu gwneud â'r Goron, atebodd "ei gwisgo hi i bob man," siŵr iawn.

Disgrifiad o'r llun, Y ddawns flodau yn cael ei pherfformio o flaen y bardd buddugol

Coron 2015

Rhoddwyd y Goron eleni gan Gymdeithas Cymru-Ariannin, a'r wobr ariannol gan y teulu er cof am Aur ac Arwyn Roberts, Godre'r Aran, Llanuwchllyn. Lluniwyd y Goron gan y gof arian, John Price, gynt o Sir Fôn ac yn byw ym Machynlleth bellach - cyn athro crefft a gwneuthurwr nifer o goronau eisteddfodol cain - a gofynnwyd iddo gyfleu'r berthynas agos sy'n bodoli rhwng y Cymry a'u cefndryd yn Nhalaith Chubut wrth ei chreu.

Yn ei chanol, mae carreg a godwyd o draeth Porth Madryn - ble glaniodd y Cymry cyntaf yn 1865. O gwmpas y garreg honno, mae hwyliau llong y Mimosa yn cael eu tynnu i lawr ar ddiwedd y daith.

Mae'r Goron hefyd yn cynnwys symbol o afon Camwy a blodau'r Celyn Bach.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Goron yn symbol o'r berthynas rhwng Cymru a Thalaith Chubut, Ariannin