Tips carafanio Angharad Mair

Ffynhonnell y llun, Arall

Disgrifiad o'r llun, "Bachwch un o blant hÅ·n y maes carafannau i warchod eich plant bach chi," meddai Angharad.

Mae Angharad Mair a'i theulu yn ymweld â maes carafanau'r Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn. Mewn erthygl arbennig i Cymru Fyw, mae Angharad yn cynnig ambell i dip i garafanwyr hen a newydd!

1. Mae cael gŵr yn handi. Os yw hi'n wir mai merched yn bennaf sy'n gyfrifol am lanhau'r tŷ bach yn y cartre', jobyn y gŵr heb os yw cerdded ar hyd faes carafanau'r 'Steddfod yn llusgo'r bocs a'i gynnwys.

2. Yn anffodus eleni mae gen i ŵr sy'n gweithio yn rhywle arall, felly tip rhif dau yw gwneud yn siŵr bod ganddo' chi ffrind yn agos, fel fy ffrind i yn y garafan drws nesa, sy'n mynnu bod mynd â'ch tŷ bach eich hun yn brofiad o dyfiant personol mewn bywyd.

3. Ffansi pnawn yn y bar gwyrdd i gael yr aduniad blynyddol gyda ffrindiau? Bachwch un o blant hÅ·n y maes carafannau i warchod eich plant bach chi. Rhowch arian am fwyd a hufen ia a thalwch yn deilwng fel bod y plentyn hÅ·n yn gofyn am waith gwarchod bob dydd.

4. Os oes ganddoch chi blant hŷn eich hun, peidiwch a rhoi unrhyw geiniog o arian poced iddyn nhw nes bod twba dŵr y garafan (a'r un sbâr) yn llawn. Dwi am drio hyn fy hun eleni.

Disgrifiad o'r llun, Coginio rhai o fwydydd mwya' poblogaidd y maes carafanau

5. Peidiwch poeni am fwyd i'r garafan, does neb yn coginio ar faes Steddfod heblaw tipyn o gig moch ac o bosib sosej neu ddwy yn y bore. Gall bwyta'n iach aros tan yr wythnos nesa'.

6. Ar y llaw arall, mae ambell i fyrbryd bach yn handi iawn fel bwyd cymdeithasol wrth fwynhau glasied bach cymdeithasol o prosecco oer. Pan fo'r plant yn cysgu. Neu ym Maes B.

7. Sortiwch allan yn gynnar yn yr wythnos pwy sy'n gyfrifol am wneud yn siŵr bod y plant yn cyrraedd 'nôl yn saff o Maes B. 'Dych chi ddim eisiau bod ar shifft hwyr bob nos. Mae hyn yn gyfle gwych i ehangu grŵp ffrindiau gyda rhieni rhai o'r bobl ifanc dieithr fydd yn gorweddian yn eich adlen chi trwy gydol y prynhawn. (Mwy o reswm i beidio cael bwyd yn y garafan...!). Ond cyfrwch y poteli prosecco.

8. Byddwch yn agored i wahodd ffrindiau sy'n ffrindiau i ffrindiau i'r adlen/garafan yn hwyr y nos oherwydd dyna sy'n gwneud 'Steddfod dda ar faes carafanau. Os ewch chi i garafan ffrind i ffrind ewch â photel o win. Ffrindiau am oes!

9. Peidiwch â chwyno am sŵn y rhai sy'n rhy ifanc i Maes B ond sy'n rhy hen i fynd i'r gwely. Maen nhw'n gwneud jobyn reit dda o warchod carafanau wrth ymlwybro'n swnllyd yn nhywyllwch y nos o un rhes i'r llall.

10. Ac yn olaf, carafanio ar faes y Steddfod yw'r peth agosa' gewch chi fel oedolyn i ddeall apêl hyfryd sleepovers. Dyma wythnos gyfan sy'n un sleepover mawr a chyn pen dim fe fyddwch chi hefyd yn eich pyjamas (gorau) yn coginio bacwn ar y barbeciw bob bore.

Os mai pabell yn hytrach na charafan sydd gennych, a bod Maes B yn apelio mwy, beth am ddarllen cyngor Branwen Llewellyn - sy'n hen law ar wersylla mewn gŵyl? Mae 'Brenhines Maes B' wedi llunio rhestr arbennig i Cymru Fyw o'r pethau i'w gwneud ac i'w hosgoi er mwyn edrych yn ôsym wrth aros mewn pabell...Mwynhewch!

Disgrifiad o'r llun, Mae'n edrych yn barchus iawn...os nad yw pawb yn dal i gysgu ar ôl noson hwyr!

Cyhoeddwyd y darn hwn yn wreiddiol ar Â鶹ԼÅÄ Cymru Fyw adeg Eisteddfod Genedlaethol 2015.