Â鶹ԼÅÄ

Cyhoeddi enw Archdderwydd newydd

  • Cyhoeddwyd
Geraint Lloyd Owen
Disgrifiad o’r llun,

Mae Geraint yn frawd i'r diweddar Gerallt Lloyd Owen

Mae Gorsedd y Beirdd Ynysoedd Prydain wedi cyhoeddi mai Geraint Lloyd Owen, fydd yn gweithredu fel Archdderwydd am y cyfnod o 2016-19.

Mae Mr Owen yn cael ei adnabod fel Geraint Llifon yn yr Orsedd.

Yn wreiddiol o'r Sarnau, Penllyn, dechreuodd Mr Owen ei yrfa fel athro ym Machynlleth ac yna bu'n dysgu mewn amryw o ysgolion cyn ymddeol yn gynnar i redeg Siop y Pentan yng Nghaernarfon. Bellach, mae'n Bennaeth Cyhoeddi yng Ngwasg y Bwthyn.

Enillodd y Goron yn Eisteddfod Wrecsam a'r Fro 2011 am ddilyniant o gerddi, Gwythiennau, a dywedodd y beirniad, Gwyn Thomas, wrth draddodi'r feirniadaeth bod y cerddi hyn "... yn rymus iawn, yn fedrus iawn, yn eglur ac yn dra diddorol."

Gan mai un enwebiad yn unig a dderbyniwyd, nid oedd angen cynnal etholiad, a bydd cyfarfod cyffredinol Bwrdd yr Orsedd yn cadarnhau'r enwebiad yn eu cyfarfod yn ystod wythnos yr Eisteddfod eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Owen yn cael ei adnabod fel Geraint Llifon o fewn yr orsedd

Wrth dderbyn yr anrhydedd, dywedodd Mr Owen: "Mae hyn yn destun balchder i mi a'r teulu, a daw yn ystod y cyfnod ar ôl i ni golli Elliw yn ferch 40 oed. Gwn y byddai hi'n ymfalchïo yn y cyhoeddiad yma heddiw.

"Bu hi'n ran mawr o'r penderfyniad i gynnig fy enw, a gwn y byddai'n dweud wrthyf am fynd amdani ac am fwynhau'r profiad pe yn llwyddiannus."

Mae Geraint hefyd yn frawd i'r diweddar Gerallt Lloyd Owen.

Bydd Geraint Lloyd Owen yn cael ei gyflwyno yn ystod Seremoni'r Cadeirio brynhawn Gwener 7 Awst yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau.

Dyma fydd seremoni olaf yr Archdderwydd presennol, Christine, a bydd yr Archdderwydd newydd yn arwain ei seremoni gyntaf adeg Cyhoeddi Eisteddfod 2017 a gynhelir ym Môn yn ystod haf 2016.

Fe gafodd Cymru Fyw sgwrs gyda Geraint Llifon ar ôl iddo dderbyn yr anrhydedd, ac .

.

Disgrifiad o’r llun,

Seremoni'r Cadeirio Eisteddfod Maldwyn fydd seremoni olaf yr Archdderwydd Christine