Â鶹ԼÅÄ

Cynllun ynni yn 'dinistrio' coedwig hynafol yn Sir Conwy

  • Cyhoeddwyd
Fairy GlenFfynhonnell y llun, Stephen Dawson / Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Coed Cymru y byddai effaith ar hanner erw o goedwig

Mae coedwig yn Sir Conwy o dan fygythiad, yn ôl elusen.

Yn ôl Coed Cadw, byddai cynllun hydro-electrig £12 miliwn ar Afon Conwy yn ardal Betws-y-coed yn dinistrio hanner erw o goedwig.

Mae'r elusen yn gofyn i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wrthod cais cynllunio RWE Innogy.

Yn ôl y cwmni, fe fyddai'r cynllun yn cynhyrchu bob blwyddyn digon o ynni i gyflenwi 2,700 o gartrefi.

Cyhoeddodd RWE Innogy eu cynlluniau dair blynedd yn ôl ac ers hynny mae'r sir wedi bod yn ymgynghori ar y cynlluniau.

'Colli am byth'

Byddai'r prosiect yn golygu tynnu dŵr o'r afon cyn pont Penmachno a'i dargyfeirio drwy dros hanner milltir o bibellau heibio Ffos Noddun cyn i'r dŵr gael ei ddychwelyd i'r afon lle mae'n uno gydag afon arall, Afon Lledr.

Dywedodd Rory Francis o'r elusen: "Unwaith mae coedwigoedd hynafol fel rhain yn cael eu colli maen nhw'n cael eu colli am byth.

"Rydym yn galw ar bwyllgor cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri i wrthod y cynnig, ac i'r cwmni ailfeddwl."

Gwnaed cais i RWE Innogy am sylw.