Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Siân Lloyd

  • Cyhoeddwyd
Sian LloydFfynhonnell y llun, Getty Images

Y ddarlledwraig Sian Lloyd sy'n Ateb y Galw yr wythnos hon. Pwy fyddai wedi rhagweld wedi enwebu cyflwynydd tywydd arall!

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Siŵr o fod bore Nadolig, falle mod i'n dair oed. Rwy'n cofio clywed clychau a meddwl bod Siôn Corn wedi cyrraedd! Beth oedd e mewn gwirionedd oedd bod clychau ar un o fy anrhegion, sef rhaff sgipio roedd fy mam yn ei osod yn yr hosan ar waelod y gwely.

Pwy oeddet ti'n ffansio pan yn ieuengach?

Doedd gen i 'rioed bosteri o sêr fel David Cassidy a Donny Osmond ar y wal. Roeddwn i'n hoff o'r artist Patrick Hughes a oedd yn boblogaidd ar y pryd gyda'i ddarluniau o'r enfys. Roedd gen i lot o luniau o enfys ar fy wal.

Ro'n i'n hoff iawn o D H Lawrence, er wrth gwrs bod yr awdur wedi marw. A mae'n rhaid i mi gyfadde fod gen i chydig o crush ar Dewi Pws!

Ffynhonnell y llun, Patrick Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Draw dros yr enfys mae... copi o 'The Rainbow' D H Lawrence a Dewi Pws!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Ro'n i yn siop Marks and Spencer yng Nghroes Cwrlwys un diwrnod a fe welais i ffrind i mi ym mhen arall y siop yn edrych ar y ffrogiau haf. Es i ati hi yn llechwraidd, i geisio tynnu ei choes, a dweud mewn llais uchel "If you think your fat arse will fit into that little summer dress you've got another thing coming!" Trodd y ferch rownd - nid fy ffrind oedd hi! Wps! Wnes i ddim gwrido cymaint ers pan o'n i'n blentyn.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Rwy'n aml yn llefain yn ystod ffilmiau ac wrth i lyfr da ddod i ben.

Oes gen ti arferion drwg?

Rwy'n cnoi fy ewinedd a dwi ddim yn amyneddgar iawn pam nad yw gwasananeth mewn bwytai yn ddigon da. Alla i ddim cau fy ngheg. Bydda i bob tro yn gwrtais ond mae'n rhaid i mi gael dweud fy nweud. Rwy hefyd yn bwyta llawer iawn gormod, yn enwedig siocled a chaws.

Ffynhonnell y llun, ITV
Disgrifiad o’r llun,

"Ble mae'r 'waiter'? Dyw'r gwasanaeth yn y jyngl 'ma ddim yn ddigon da!"

Dy hoff ddinas yn y byd?

Rwy wrth fy modd yn teithio ac yn sgwennu erthyglau. Rwy'n teithio i Awstralia yn aml ac rwy'n hoff iawn o Adelaide sy'n ddinas fechan tebyg i Gaerdydd. Ond o orfod dewis un mi fuaswn i yn dewis Sydney - y lleoliad, y tŷ Opera, y dŵr... bendigedig!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Noson y refferendwm a phobl Cymru yn pledleisio o drwch blewyn o blaid y Cynulliad. Pan roedd y bleidlais i'w gweld wedi ei cholli roeddwn i wedi bod mewn pwll o o anobaith ac yn gweiddi ar fy nghyd-Gymry i beidio bod mor ddi-asgwrn cefn ac am golli cyfle euraid.

Wrth gwrs wedyn, y gorfoledd o glywed bod y bleidlais wedi ei hennill. Roedd y ddau begwn emosiynol eithafol yna yn ei gwneud hi'n noson gofiadwy.

Rwy hefyd wedi cael nifer o nosweithiau cofiadwy yn chwerthin a mwynhau yng nghwmni teulu a ffrindiau.

Oes gen ti datŵ?

Nagoes. Rwy'n eu casáu. Mae nhw'n stiwpid ac yn chydig o ³¦±ô¾±³¦³óé.

Beth yw dy hoff lyfr?

Ga'i ddau? 'The Go Between' gan L P Hartley. Dyw nifer o bobl ddim yn cofio'r nofel ond mae'r llinell agoriadol yn adnabyddus iawn: "The past is a foreign country: they do things differently there."

Hefyd rwy wrth fy modd gyda 'Cerddi T H Parry-Williams'.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Pâr o jîns da.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen pâr o jîns da i ennill gwobr 'Rear of the Year'!

Beth oedd y ffilm ddiwetha' i ti ei gweld?

Gan fy mod i wedi bod yn teithio'n gyson yn ystod y flwyddyn dwi ddim wedi cael llawer o gyfle i fynd i'r sinema. Ond rwy'n cofio ynghanol mis Ionawr i mi weld 'The Grand Budapest Hotel' a'i mwynhau.

Dy hoff albwm?

Anodd! Mae gen i nifer o ffefrynnau ond os oes rhaid dewis un yna 'Transformer' gan Lou Reed.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - p'run ydi dy ffefryn?

Does na'r un pryd yn gyflawn heb y tri! Ond gan bod gen i ddant melys, bydde rhaid mynd am y pwdin. Pavlova perffaith gyda mafon.

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Rwy'n tecstio trwy'r amser ond does dim byd gwell na chlywed llais. Mae'n codi'r galon!

Pe taset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Dwi ddim yn gallu canu yn dda iawn felly mi fuaswn i'n cael boddhad mawr o gael y gallu hwnnw i fod yn sŵn cerddoriaeth a gan fy mod i hefyd yn gwerthfawrogi'r geiriau hefyd bydde'n rhaid dewis rhywun sy'n gallu sgwennu yn gampus yn ogystal â chanu o'r galon.

Felly byddwn i'n hoffi bod yn esgidiau Leonard Cohen am y dydd.

Disgrifiad o’r llun,

"Roedd cwrs 'Total Wipeout' yn haws 'na Ateb y Galw"

Pwy fydd yn ateb y cwestiynau yma yr wythnos nesaf?

Stifyn Parri