Â鶹ԼÅÄ

Cyn lywyddion yn galw am gadw Neuadd Pantycelyn

  • Cyhoeddwyd
Pantycelyn
Disgrifiad o’r llun,

Neuadd breswyl Pantycelyn yw neuadd Gymraeg dynodedig y brifysgol

Mae 20 o gyn lywyddion Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth wedi arwyddo llythyr agored yn galw ar Brifysgol Aberystwyth i beidio â chau Neuadd Pantycelyn.

Daeth cyhoeddiad fis diwethaf bod dyfodol y neuadd unwaith eto yn y fantol, hynny wedi i ymgyrch yn erbyn cau'r neuadd yn 2014 lwyddo.

Mae'r llythyr gan rai fu'n llywyddion yr undeb Gymraeg dros gyfnod o 40 mlynedd yn mynegi syndod am benderfyniad "sydyn" uwch reolwyr y brifysgol i gynnig cau'r neuadd Gymraeg i fyfyrwyr o fis Medi eleni.

Mae'r Brifysgol n dweud eu bod yn "gwbl ymroddedig i ddarparu llety dynodedig cyfrwng Cymraeg" i Aberystwyth lle mae gweithgareddau myfyrwyr yn gallu "ffynnu".

Disgrifiad,

Ymrwymiad 'gadarn' i lety Cymraeg

Mae'r cyn lywyddion sydd wedi arwyddo'r llythyr yn cynnwys Karl Davies, Llion Williams, Catrin Dafydd, Aled Siôn a Menna Machreth.

Dywedodd un arall, yr Aelod Cynulliad dros ogledd Cymru LlÅ·r Gruffydd: "Mae cyfraniad Neuadd Pantycelyn i fywiogrwydd y Gymraeg ar hyd y blynyddoedd wedi bod yn anferthol.

"Fe ysgrifennon ni'r llythyr yma oherwydd pryder nad yw Prifysgol Aberystwyth yn llawn sylweddoli pwysigrwydd Pantycelyn i'r brifysgol nac i'r iaith Gymraeg yn ehangach.

"Rydyn ni'n galw ar y Brifysgol i beidio gwneud penderfyniad byrbwyll i gau'r neuadd, ac yn hytrach i gadw Pantycelyn ar agor am y flwyddyn academaidd nesaf o leiaf, gan ymgynghori'n llawn â staff, myfyrwyr a chyfeillion eraill y brifysgol cyn dod i benderfyniad hirdymor."

'Hen bryd gwrando'

Ychwanegodd llywydd presennol UMCA, Miriam Williams: "Rydyn ni'n hynod ddiolchgar o'r gefnogaeth i'r ymgyrch yn erbyn cau Pantycelyn.

"Mae hyd yn oed y prif weinidog Carwyn Jones, sydd hefyd yn gyn breswyliwr, wedi dweud na fyddai am weld y neuadd yn cau. Mae'n hen bryd i awdurdodau'r brifysgol wrando ar lais ei myfyrwyr, ei staff a phobl Cymru."

Mae'r llythyr agored wedi cael ei anfon at nifer o bapurau newydd a chyhoeddiadau eraill.

Yr 20 cyn lywydd sydd wedi arwyddo'r llythyr yw:

Dyfrig Berry, Gwyn Williams, Alun Llewelyn, Llion Williams, Karl Davies, Aled Siôn, Euryn Madoc-Jones, Llŷr Gruffydd, Morys Gruffydd, Gwion Hallam, Emyr-Wyn Francis, Dr Angharad Closs Stephens, Gwion Evans, Dr Meilyr Emrys, Catrin Dafydd, Osian Rhys, Dr Menna Machreth, Geraint Edwards, Steffan Prys Roberts a Mared Ifan.

Mae y Brifysgol hefyd wedi datgan eu pryder ynglŷn â dyfodol Pantycelyn.

Mewn datganiad dywedodd y Brifysgol: "Mae Prifysgol Aberystwyth yn gwbl ymroddedig i ddarparu llety dynodedig cyfrwng Cymraeg lle mae'r iaith Gymraeg yn cael ei siarad bob dydd, lle gall y rhai sy'n dysgu'r iaith ymgolli mewn cymuned naturiol Gymraeg, a lle mae gweithgareddau diwylliannol Aelwyd Pantycelyn, gweithgareddau cymdeithasol y myfyrwyr a gwaith ymgyrchu Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) yn medru ffynnu."

Ychwanegodd y llefarydd bod trafodaethau wedi eu cynnal gydag undebau myfyrwyr am y llety fydd ar gael i fyfyrwyr Cymraeg "os na fydd ei chartref presennol ym Mhantycelyn ar gael ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf".

"Bydd y llety hwn wrth galon campws Penglais, o fewn tafliad carreg i rai o'r adrannau mwyaf poblogaidd ymysg siaradwyr Cymraeg, ac yn cynnig gofod cymdeithasol a chymunedol hael er mwyn hwyluso parhad yr ymdeimlad o gymuned ar y cyd ymhlith y myfyrwyr."