Gareth F Williams yn ennill Llyfr y Flwyddyn 2015

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Enillodd Gareth Wobr Tir na n-Og am y chweched tro ar 28 Mai yn Eisteddfod yr Urdd

Y nofel Awst yn Anogia gan Gareth F Williams sy'n ennill Prif Wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2015.

Cafodd y seremoni wobrwyo ei chynnal yn Galeri, Caernarfon.

Dyma'r ail wobr iddo ei hennill mewn wythnos gan iddo dderbyn Gwobr Tir na n-Og am y chweched tro yn Eisteddfod yr Urdd am ei nofel i bobl ifanc, Y Gêm.

Mae Awst yn Anogia, gyhoeddwyd gan Wasg Gwynedd, yn nofel wedi'i seilio ar erchyllterau'r Ail Ryfel Byd ar ynys Creta a'r digwyddiadau newidiodd bentref Anogia am byth.

Wrth siarad ar raglen Dylan Jones ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru fore dydd Gwener, disgrifiodd yr awdur ei sioc pan glywodd y cyhoeddiad ei fod wedi ennill: "Doeddwn i wirioneddol ddim yn disgwyl y brif wobr o gwbl, ac roeddwn i fwy neu lai wedi diffodd fy meddwl tuag at y peth.

"Ond pan ddaeth y cyhoeddiad mi godes i o fy sedd ac mi fu'n rhaid i mi eistedd i lawr yn syth bin am fod fy nghoesau wedi mynd yn wan fel clai."

Disgrifiodd Gareth F Williams wrth Dylan Jones am gefndir Awst yn Anogia: "Mae'n glamp o lyfr - dros 500 o dudalennau - ac wedi cael ei gosod yng Nghreta yn y flwyddyn 1944, ac wrth gwrs roedd Creta fel nifer o ynysoedd Groegaidd o dan sawdl y Natsïaid.

"Dwi wedi canolbwyntio am bedwar mis rhwng Pasg 1944 a mis Awst, oherwydd dyna oedd sgîl herwgipio cadfridog Almaeneg o'r enw Heinrich Kreipe. Mae'r nofel yn canolbwyntio ar y pedwar mis yn sgîl yr herwgipio, a'r dial a'r gorthrwm yr oedd y Natsïaid yn ei dalu'n ôl i'r bobl gyffredin yng Nghreta.

Fel rhan o'r gwaith ymchwil ar gyfer Awst yn Anogiafe wnaeth Gareth F Williams ymweld â Chreta:

"Fe fues i yng Nghreta ddwywaith ac fe ges i groeso mawr gan y bobl ac fe fun ni o gwmpas y pentrefi mynyddig yn holi gwahanol bobl ac roedd hynny arwahan i'r amser nes i dreulio mewn amgueddfa yn Heraklion, ac yna'r gwaith ymchwil ar ôl mynd adref."

Beirniaid yr adrannau Cymraeg oedd Annes Glynn, Hywel Griffiths a Gareth Potter.

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Lleucu Roberts enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr y llynedd

'Eithriadol'

Dywedodd Hywel ar ran y panel beirniadu Cymraeg: "Roedd cael beirniadu yn fraint ac yn bleser, a bydd pob llyfr ar y rhestr fer yn aros gyda mi am amser hir iawn.

"Cafwyd barddoniaeth gyfoes a dyfeisgar, llyfrau ffeithiol awdurdodol, uchelgeisiol ac arhosol a gwaith ffuglennol ysgubol oedd yn cyffwrdd â'r galon.

"Mae'r enillydd, Awst yn Anogia, yn eithriadol yn y modd y mae'n creu cymeriadau a lleoedd y mae'r darllenydd yn poeni amdanyn nhw.

Dyma epig hanesyddol lle mae effaith rhyfel yn dod yn fyw drwy fywydau pobl gyffredin."

GWOBRAU LLYFRAU CYMRAEG

Llyfr y Flwyddyn 2015 - Awst yn Anogia (Gareth F Williams)

Ffuglen - Awst yn Anogia (Gareth F Williams)

Barddoniaeth - Un Stribedyn Bach (Rhys Iorwerth)

Ffeithiol Greadigol - Rhyw Flodau Rhyfel (Llyr Gwyn Lewis)

Barn y Bobl - Saith Oes Efa (Lleucu Roberts)

Dau awdur yn wreiddiol o Gaernarfon sydd wedi dod i'r brig yn yr adrannau Barddoniaeth a Ffeithiol Greadigol Cymraeg.

Y gyfrol fuddugol yn yr adran Barddoniaeth yw Un Stribedyn Bach (Gwasg Carreg Gwalch) gan Rhys Iorwerth.

Dyma gyfrol gyntaf y Prifardd ifanc lle mae'n ceisio gwneud pen a chynffon o'i 30 mlynedd gyntaf ar y ddaear.

Enillydd y categori Ffeithiol Greadigol yw Llyr Gwyn Lewis gyda Rhyw Flodau Rhyfel (Y Lolfa).

Ffaith a ffuglen

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri

Disgrifiad o'r llun, Lleucu Roberts enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr y llynedd

Dyma lyfr am hanes, rhyfel a theithio sy'n blethiad o ffaith a ffuglen â'i ganolbwynt ar y cof a sut yr ydyn ni'n coffáu.

Enillydd Gwobr Barn y Bobl 2015 oedd Saith Oes Efa (Y Lolfa) gan Lleucu Roberts. Enillodd y gyfrol hon o straeon byrion Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014.

Yn ystod y seremoni derbyniodd enillydd pob adran wobr ariannol o £2,000, gydag enillydd y brif wobr yn derbyn £6,000 yn ychwanegol.

Cafodd pob enillydd dlws dur wedi'i gynllunio a'i greu gan yr artist Angharad Pearce Jones.

GWOBRAU LLYFRAU SAESNEG

Llyfr y Flwyddyn 2015 - Other People's Countries (Patrick McGuinness)

Ffuglen - The Dig (Cynan Jones)

Barddoniaeth - So Many Moving Parts (Tiffany Atkinson)

Ffeithiol Greadigol - Other People's Countries (Patrick McGuinness)

Barn y Bobl - My Family and Other Superheroes(Jonathan Edwards)

Enillydd y categori Ffeithiol Greadigol enillodd y brif wobr Saesneg - Other People's Countries (Jonathan Cape) gan Patrick McGuinness yw Llyfr y Flwyddyn Saesneg 2015.

Pwnc y gyfrol yw Bouillon, un o drefi'r ffin yng ngwlad Belg, man geni ei fam, a lleoliad sy'n agos at galon yr awdur.

Enillydd y categori Ffuglen Saesneg yw The Dig (Granta) gan Cynan Jones, nofel fer ddeifiol lle mae dyn a chreadur, y tir a'r tywydd yn gwrthdaro.

Cyfrol o gerddi Tiffany Atkinson, So Many Moving Parts (Bloodaxe Books) ddaeth i'r brig yn y categori Barddoniaeth Saesneg.

Beirniaid y llyfrau Saesneg oedd Alex Clark, Tessa Hadley a Paul Henry.

Enillydd y People's Choice Award oedd Jonathan Edwards gyda'i gyfrol arobryn My Family and Other Superheroes (Seren).

'Tiroedd pellennig'

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: "Llongyfarchiadau gwresog i bob un o'r enillwyr am eu llwyddiant eleni.

"Hoffwn longyfarch yr holl awduron eraill hefyd - mae cyrraedd Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn yn gryn gamp. Braf hefyd yw gweld bod golygon awduron o Gymru wedi eu hoelio ar y gorwel.

"Maen nhw'n arwain darllenwyr i diroedd pellennig, gan gyflwyno diwylliannau a hanes newydd i ni tra'n parhau i fod yn driw i'n hunaniaeth ein hunain."

Llenyddiaeth Cymru sy'n gweinyddu Gwobr Llyfr y Flwyddyn mewn partneriaeth â Cyngor Celfyddydau Cymru, Cymdeithas Brycheiniog, Pethe, Golwg360, Wales Arts Review a Cyngor Llyfrau Cymru.