Â鶹ԼÅÄ

Dedfryd oes am lofruddio llanc 18 oed

  • Cyhoeddwyd
Conner Marshall
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Conner Marshall yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd wedi'r ymosodiad

Mae dyn o Gaerffili, wnaeth ymosod ar lanc 18 oed gyda pholyn tra dan ddylanwad alcohol a chyffuriau, wedi ei garcharu am oes.

Bu farw Conner Marshall, 18, o'r Barri, bedwar diwrnod ar ôl cael ei anafu'n ddifrifol yn y digwyddiad ym mharc carafannau Bae Trecco, ym Mhorthcawl, ar 8 Mawrth.

Wrth ddedfrydu David James Braddon, 26, yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher, dywedodd y barnwr Mr Ustus Wyn Williams fod yr ymosodiad yn un "bwystfilaidd".

Roedd Braddon wedi ddiwedd mis Mai. Clywodd y llys fod y diffynydd wedi camgymryd Mr Marshall am ddyn arall.

Wrth gyhoeddi y byddai Braddon yn treulio o leia' 20 mlynedd dan glo, dywedodd y barnwr Mr Ustus Wyn Williams: "Rydych wedi amddifadu Mr Marshall o fywyd ac wedi achosi poen ac anobaith difesur i'r teulu."

Roedd 'na gymeradwyaeth gan deulu Mr Marshall wrth i'r ddedfryd gael ei chyhoeddi.

Hanes o droseddu

Roedd y llys wedi clywed fod Braddon yn byw yn y parc carafannau a bod ganddo record am droseddau trais a defnyddio cocên.

Roedd Mr Marshall cyn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Bro Morgannwg, yn aros mewn carafán gyda ffrindiau ac wedi bod yn yfed lager ar y traeth tua 12.30yb.

Aeth y ffrindiau yn ôl i'r garafán ond fe ddychwelodd Conner i'r traeth ar ei ben ei hun er mwyn cael un olwg arall ar y golygfeydd.

"Dyna'r tro olaf i'w ffrindiau ei weld," meddai Michael Jones ar ran yr erlyniad.

Roedd perchennog y safle, Paul Brice, wedi clywed sŵn am 01:50, ond wedi cymryd mai rhywun meddw oedd yno.

Am 06:40 daeth o hyd i ôl gwaed a dillad isaf y tu allan i'w garafán. Yna daeth o hyd i gorff Conner, roedd e'n noeth ac eithro par o sannau.

Roedd e'n gwbl anymwybodol.

'Anafiadau erchyll'

Dywedodd Mr Jones fod y perchennog wedi dweud:"Roedd ei anafiadau mor erchyll roedd yn ddigon i wneud rhywun yn sâl, roeddwn methu ag edrych arno."

Clywodd y llys fod polyn wedi ei ddefnyddio yn yr ymosodiad.

Dywedodd Mr Jones fod parafeddyg wedi dweud fod yr anafiadau ymhlith y gwaethaf iddo eu gweld erioed.

Fe wnaeth Braddon gyfaddef mae ef oedd yn gyfrifol am ddechrau ymladd. Fe wnaeth gyfaddef iddo "orymateb" ac roedd yn "hynod flin" am yr hyn ddigwyddodd.

Clywodd y llys fod yr ymosodwr yn credu ei fod yn ymosod ar bartner ei gyn gariad, dyn o'r enw Adam Malyn.

Roedd wedi ymosod ar Mr Marshall sawl gwaith cyn sylweddoli nad ef oedd Mr Malyn.

Gofynnodd Braddon iddo a oedd e'n iawn, cyn mynd yn ôl i'w garafán "gyda gwaed ar draws ei wyneb"

Cyffuriau ac alcohol

Clywodd y llys fod y diffynydd wedi cymryd 50 o dabledi Valium, ynghyd â chocên, a'i fod wedi bod yn yfed alcohol.

Dywedodd Vaughan Edwards ar ran yr erlyniad: "Roedd gweithredoedd Mr Braddon o ganlyniad i effaith diod a chyffuriau ac fe aeth yn wyllt."

Ond yn ôl y barnwr, roedd y ffaith fod y diffynnydd "dan ddylanwad" wrth gyflawni'r drosedd yn gwneud y peth yn waeth.

Ychwanegodd Mr Edwards nad oedd hyn yn esgusodi'r gweithredoedd a bod ei gleient yn edifar am y loes achosodd i'w deulu ac i deulu Conner Marshall.

Wedi'r ddedfryd, dywedodd Jeff Mark, Prif Erlynydd y Goron gyda'r gwasanaeth yng Nghymru: "Cyfaddefodd Braddon ar y pryd ei fod wedi gwylltio ac wedi meddwi. Roedd wedi bod yn yfed yn drwm, wedi cymryd cyffuriau a mas o reolaeth. Roedd hyn yn achos o gamgymryd un dyn am ddyn arall ac mae'n ymddangos fod Conner yn y lle anghywir ar yr amser anghywir.

"Mae Braddon nawr yn wynebu dedfryd hir o garchar am ei weithredoedd. All y system gyfiawnder troseddol ddim gwneud da allan o ddrwg, ond rydym yn gobeithio y bydd y ddedfryd yn helpu rhywfaint ar deulu a ffrindiau Conner wrth iddyn nhw geisio symud 'mlaen â'u bywydau."