Protest Pantycelyn ar Faes Eisteddfod yr Urdd

Disgrifiad o'r llun, Fe ddaeth tua 15 o brotestwyr i stondin y brifysgol ar y maes

Mae myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi cynnal protest ar faes Eisteddfod yr Urdd yn erbyn cynlluniau i gau Neuadd Pantycelyn.

Fe ddaeth tua 15 o brotestwyr i stondin y brifysgol ar y maes, yn arddangos placardiau yn galw i achub y neuadd.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi argymell y dylai Neuadd Pantycelyn gau fel llety ar ddiwedd y tymor yma am gyfnod amhenodol, a chreu llety cyfrwng Cymraeg ar gampws Penglais.

Er hynny, mae myfyrwyr yn anhapus gyda'r penderfyniad oherwydd "ansicrwydd" am y cynlluniau.

'Anfodlon iawn'

Dywedodd llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth, Miriam Williams, bod y myfyrwyr yn "anfodlon iawn hefo penderfyniad diweddar y brifysgol i argymell i gau Neuadd Pantycelyn".

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Miriam Williams nad oedd y brifysgol wedi "ymrwymo i amserlen"

Ychwanegodd: "Rydyn ni'n teimlo mai hwn ydi'r cam nesa' ymlaen yn ein hymgyrch ni er mwyn cael ein llais wedi ei glywed yn genedlaethol, ac i ddangos nad ydyn ni'n hapus bod Prifysgol Aberystwyth yn parhau i anwybyddu llais myfyrwyr Cymraeg."

Dywedodd eu bod yn protestio ar Faes yr Eisteddfod gan fod darpar fyfyrwyr a rhieni yno, ac nad oedd yn ffordd o ymosod ar yr Urdd.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd Prifysgol Aberystwyth yn deall bod llais y myfyrwyr yn cael effaith ar bobl, a bod angen parchu ein llais ni.

"Ni sy'n talu cyflogau'r staff ar ddiwedd y dydd. Rydyn ni angen cael ein trin fel partneriaid yn hytrach na chwsmeriaid."

'Cydnabod a deall' pryderon

Wedi cyfarfod ym mis Mai, dywedodd Dr Tim Brain, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Strategaeth bod "trafodaeth hir, trylwyr a chynhwysfawr ar ddyfodol Pantycelyn" wedi arwain at "argymell i Gyngor y Brifysgol y dylai'r neuadd gau fel preswylfa, am gyfnod sydd i'w benderfynu, ar ddiwedd y tymor hwn".

Dywedodd hefyd y byddai'r adeilad yn cael ei ddefnyddio fel swyddfeydd.

Ychwanegodd ei fod yn "cydnabod a deall" y pryderon, ac mai argymhellion oedd wedi cael eu gwneud, nid penderfyniad terfynol.

Er hynny, dywedodd Miriam ddydd Gwener mai "addewidion gwag" oedd y rheiny ac nad oedd y brifysgol wedi "ymrwymo i amserlen".

"Dydyn nhw ddim yn dweud pryd fydd cyllid ar gael i wneud y gwaith, felly i ni mae o'n gam mawr yn ôl os ydyn nhw'n cau'r neuadd fis Medi achos does gyda ni ddim syniad pryd fydd o'n ail-agor os o gwbl."