Cau Pantycelyn ddiwedd y tymor?

Wedi cyfarfod nos Wener, mae Prifysgol Aberystwyth wedi penderfynu y byddan nhw'n argymell y dylai Neuadd Pantycelyn gau fel llety ar ddiwedd y tymor yma am gyfnod amhenodol.

Daw'r penderfyniad wedi i'r pwyllgor cyllid a strategaeth edrych ar argymhellion gan weithgor sydd wedi bod yn ystyried dyfodol Neuadd Pantycelyn.

Mewn datganiad, fe danlinellodd y pwyllgor "ymrwymiad y brifysgol i'r iaith ac i ddarparu llety cyfrwng Cymraeg".

Fe fydd y brifysgol yn gweithio gydag Undeb y Myfyrwyr Cymraeg - UMCA i wneud trefniadau ar gyfer llety cyfrwng Cymraeg ar gampws Penglais.

Yn y cyfamser, fe fydd adeilad Neuadd Pantycelyn yn cael ei ddefnyddio fel canolfan gwasanaethau Cymraeg y brifysgol, gyda bwriad o edrych ar ddyfodol y safle yn y tymor hir.

Yn ôl y brifysgol, fe fydd penderfyniad terfynol fis nesaf.

'Trafodaeth hir a thrylwyr'

Dywedodd Dr Tim Brain, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Strategaeth: "Heddiw cawsom drafodaeth hir, trylwyr a chynhwysfawr ar ddyfodol Pantycelyn. Penderfynwyd argymell i Gyngor y Brifysgol y dylai'r neuadd gau fel preswylfa (am gyfnod sydd i'w benderfynu) ar ddiwedd y tymor hwn.

"Bydd yr adeilad, fodd bynnag, yn cael ei ddefnyddio gan Ganolfan Gwasanaethau'r Gymraeg y Brifysgol, swyddfeydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a'r tîm Cymraeg i Oedolion. Mae'r pwyllgor wedi argymell ymhellach y bydd astudiaeth ddichonoldeb gynhwysfawr yn cael ei gwneud a fydd yn adeiladu ar waith y Gweithgor.

"Rydym yn cydnabod ac yn deall y pryderon a godwyd gan y myfyrwyr sy'n byw yno a'u cynrychiolwyr. Cafodd eu safbwyntiau eu cynrychioli'n llawn yn y cyfarfod heddiw.

"Argymhellion yw'r rhain. Byddant yn cael eu hystyried gan Gyngor y Brifysgol ym mis Mehefin a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol."

Ansicrwydd

Roedd yna fyfyrwyr yn protestio y tu allan i'r cyfarfod ddoe, a'u pryder nhw ydi fod dweud y bydd y "neuadd yn cau am gyfnod amhenodol" o fis medi ymlaen yn creu ansicrwydd mawr - nad oes 'na amserlen bendant na sicrwydd a fydd y neuadd yn ail-agor o gwbl yn y dyfodol fel neuadd breswyl i fyfyrwyr Cymraeg.

Dywedodd Miriam Williams, Llywydd UMCA: "Mae'r sefyllfa yma yn union fel un 2005, gyda chynlluniau i symud swyddfeydd i'r Neuadd. Amlinellir hyn yn natganiad y Brifysgol. Dydi hyn ddim yn ddigon da.

"Llety myfyrwyr y dylai'r adeilad fod, dim mwy, dim llai.

"Mi ddylai Pantycelyn fod yn gartref i fyfyrwyr Cymraeg hyd nes bod y gwaith o adnewyddu ac adeiladu yn cychwyn."

'Siglo i'r seiliau'

Fore Sadwrn ar ei thudalen Facebook, fe ddywedodd Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones fod "penderfyniad Prifysgol Aberystwyth ar ddyfodol Pantycelyn wedi fy synnu a'm siomi."

Ychwanegodd:

"Fe allaf ddeall penderfyniad i gau dros dro tra fod gwaith angenrheidiol yn cael ei gwblhau. Ond mae gwneud hynny heb ddarparu unrhyw sicrwydd ac amserlen ar gyfer adnewyddu ac atgyfodi Pantycelyn fel Canolfan a Neuadd Gymraeg yn gwbwl annerbyniol.

"Dyna oedd yr addewid a roddwyd gan y Brifysgol llynedd. Ac fel i ni wleidyddion yn gwybod, mae torri addewid yn cael ei feirniadu'n llym iawn gan bobol.

"Felly, heddi' mae hygrededd y Brifysgol yma wedi ei siglo i'r seiliau. Wn i ddim a oes modd adfer hyn. Fe fyddai cadarnhad am ddyfodol Neuadd Pantycelyn ac amserlen bendant i'w wireddu yn gam pendant i gychwyn adennill hygrededd.

"Fe wn fod pobol â chefnogaeth di-amod i'r Gymraeg yn staff a myfyrwyr i'r Brifysgol. Os odw i wedi gweld bai ar gam ar y Brifysgol yna mae croeso i chi ymateb i'r Statws yma. Fe rydw i wastad yn barod i gael fy nghywiro!

"Ond yn bwysicach, fe rydw i wastad yn barod i chwilio am ffordd i adfer enw da Prifysgol Aberystwyth."

'Cael ei chwalu'

Dywedodd Bethan Williams swyddog maes lleol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Mae Prifysgol Aberystwyth wedi bradychu'r Gymraeg a'i myfyrwyr. Faint o werth mae'r Brifysgol yn ei roi i'r Gymraeg? Mae'r neuadd yn un o'r ychydig gymunedau Cymraeg sydd ar ôl yng Nghymru - bydd cymuned Gymraeg naturiol yn cael ei chwalu oherwydd y Brifysgol.

"Mae uwch swyddogion y Brifysgol wedi ceisio twyllo myrfyrwyr - dyn nhw ddim yn addas i ddal swyddi cyhoeddus o'r fath. Bydd cell Pantycelyn yn trafod beth fydd ein haelodau yn ei wneud i gefnogi'r ymgyrch er mwyn sicrhau bod y neuadd yn aros ar agor fel llety myfyrwyr y tymor nesaf."