Pryder am ddyfodol Neuadd Pantycelyn

Disgrifiad o'r llun, Cafodd sloganau eu gosod o amgylch y neuadd ddydd Iau

D ywed undeb myfyrwyr eu bod yn poeni unwaith eto am ddyfodol hir dymor Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth - neuadd breswyl ar gyfer myfyrwyr Cymraeg.

Yn ôl Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) maen nhw wedi gweld dogfennau gan y brifysgol sy'n argymell cau'r neuadd ym mis Medi ar gyfer ei moderneiddio.

Dywedodd llefarydd ar ran UMCA nad oes yna ddyddiad wedi ei bennu ar gyfer cwblhau'r gwaith nac i ailagor y neuadd.

Ychwanegodd: "Pryder UMCA yw na fydd Pantycelyn yn ailagor fel neuadd breswyl."

Mewn ymateb dywedodd Prifysgol Aberystwyth eu bod "wedi cytuno ac wedi sicrhau bod rhaid cael llety penodol ar gyfer myfyrwyr Cymraeg eu hiaith".

Ychwanegodd bod yr opsiynau posib ar gyfer dyfodol hirdymor yr adeilad yn "galw am ailddatblygiad cyflawn a buddsoddiad sylweddol."

Mae disgwyl i un o bwyllgorau'r brifysgol gyfarfod ddydd Gwener i drafod dyfodol yr adeilad.

Protestio dros Neuadd Pantycelyn

Bu nifer o fyfyrwyr Aberystwyth yn protestio yn erbyn cau Neuadd Pantycelyn

Y llynedd fe wnaeth myfyrwyr gynnal nifer o brotestiadau ar ôl clywed na fyddai Pantycelyn yn parhau fel neuadd breswyl.

Y bwriad oedd symud myfyrwyr i fflatiau newydd ar Fferm Penglais ryw hanner milltir i ffwrdd.

Disgrifiad o'r llun, Yn 2014 bu nifer o fyfyrwyr Aberystwyth yn protestio yn erbyn cau Neuadd Pantycelyn

Ond yn Ebrill 2014, yn dilyn y protestiadau, fe benderfynodd y brifysgol ddatblygu cynllun busnes er mwyn datblygu Neuadd Pantycelyn fel Canolfan Gymraeg a Diwylliant.

Ar y pryd dywedodd y brifysgol y byddai'r cynllun yn cynnwys "datblygu opsiynau ar gyfer parhad Pantycelyn fel llety arlwyo ar gyfer myfyrwyr sy'n siaradwyr Cymraeg ac yn ddysgwyr y Gymraeg."

Dywedodd Miriam Williams, Llywydd UMCA, eu bod nhw' teimlo bod y brifysgol wedi eu gadael i lawr.

"Mae'n hollol afresymol i ni gytuno â hyn, mae yna 50 o fyfyrwyr wedi arwyddo cytundeb efo'r brifysgol a'u dewis nhw oedd aros ym Mhantycelyn y flwyddyn nesa. Maen nhw wedi talu blaendal."

Ychwanegodd ei bod hi'n rhy hwyr iddyn nhw ddechrau edrych am lety arall ar gyfer y flwyddyn nesa, gyda dim ond pythefnos o'r ôl o'r tymor hwn.

'Llety addas arall'

Pantycelyn

Cafodd Neuadd Pantycelyn ei hagor yn nechrau'r 1950au, ond yn 1974 y daeth yn neuadd breswyl Gymraeg

Mewn ymateb dywedodd Prifysgol Aberystwyth: "Mae Prifysgol Aberystwyth bob amser wedi cytuno ac wedi sicrhau bod yn rhaid cael llety penodol ar gyfer myfyrwyr Cymraeg eu hiaith yn y Brifysgol.

"Mae adroddiad y Gweithgor yn amlinellu nifer o opsiynau ar gyfer adnewyddu Pantycelyn, gan gynnwys fel llety myfyrwyr yn bennaf.

"Mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod bod y dewisiadau hirdymor yn galw am ailddatblygiad cyflawn a buddsoddiad sylweddol.

"Yn sgîl yr angen am fuddsoddiad hirdymor sylweddol a gwariant ychwanegol yn y tymor byr er mwyn bod Pantycelyn yn parhau fel neuadd breswyl tu hwnt i Fehefin 2015, bydd y Pwyllgor hefyd yn ystyried cynnig i beidio â darparu llety myfyrwyr yno o Fedi 2015, ac yn ystyried defnydd amgen i Bantycelyn a fyddai yn cynnwys gweithgareddau iaith a diwylliant cyfrwng Cymraeg.

Ychwanegodd: "Os bydd y cynnig i beidio â pharhau i ddefnyddio'r Neuadd fel neuadd breswyl myfyrwyr y tu hwnt i ddiwedd y tymor yn cael ei gymeradwyo, bydd y Brifysgol yn gweithio gydag UMCA a chynrychiolwyr y myfyrwyr i ddarparu llety addas arall o fis Medi 2015.

"Yn y cyfamser, bydd y Brifysgol yn cyfarfod ag aelodau UMCA yn nes ymlaen heddiw i drafod y cynigion."

Ffynhonnell y llun, Ian Capper/Geograph

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Neuadd Pantycelyn ei hagor yn nechrau'r 1950au, ond yn 1974 y daeth yn neuadd breswyl Gymraeg