Mae'r Super Furry Animals yn ôl!

Maen nhw wedi bod yn dawel ers chwe blynedd ond mae'r Super Furry Animals yn ôl! Ar 1 Mai maen nhw yn ailryddhau Mwng, yr albwm Gymraeg mwyaf llwyddiannus erioed.

Yr wythnos yma mae nhw wedi dechrau ar daith, fydd yn cynnwys tair noson yng Nghaerdydd. Laura Nunez, aeth i'r gig agoriadol yng Nghaerloyw nos Fawrth, bu'n rhannu'r profiad gyda Cymru Fyw:

Hir yw pob ymaros

Roedd y disgwyliadau yn uchel i weld y Super Furries yn eu gig cyntaf mewn chwe blynedd yn Guildhall, Caerloyw, ac roedd yr aros yn teimlo'n hirach gan nad oedd na fand arall yn chwarae o'u blaenau ar y noson.

Aeth y goleuadau i lawr ac mi ddaeth y band ymlaen yn gwisgo boilersuits gwyn llachar, a dechreuodd y cyffro gyda (A) Touch Sensitive, cyn mynd 'mlaen i ganeuon poblogaidd fel God! Show Me Magic a Do or Die.

Roedd y delweddau wedi eu taflunio tu ôl iddyn nhw yn ychwanegu at y profiad ac roedd y band yn chwarae yn wych, fel 'tasa nhw heb gael hoe o gwbl.

Ffefrynnau

Nesa' oedd un o fy ffefrynnau, Demons, gafodd groeso swnllyd gan y ffans, a daeth deuawd pres ymlaen i ymuno â'r band, wrth i'r set fynd drwy gyfnod tawelach a rhoi sylw i ganeuon Mwng, gyda'r uchafbwyntiau yn cynnwys Ymaelodi â'r Ymylon a Nythod Cacwn. Roedd yna broblemau technegol gyda gitâr Bunf, ond fe gariodd gweddill y band ymlaen gan swnio'r un mor dda.

Ychydig iawn o gyfathrebu oedd rhwng y band a'r dorf, gyda'r band yn canolbwyntio ar y gerddoriaeth. Ar y cyfan, roedd y dorf yn dawel iawn drwy gydol y noson, sy'n anghyffredin i ffans SFA - adlewyrchiad 'falle bod dilynwyr y Super Furries yn heneiddio ond, wedi dweud hynny, roedden nhw yn ymateb yn angerddol erbyn canol y set pan gafodd caneuon tyner, arwrol fel Hello Sunshine a Â鶹ԼÅÄtown Unicorn eu chwarae.

Cododd y tempo unwaith yn rhagor gyda hen ffefryn, ac un sydd ddim yn cael ei chwarae digon aml, Arnofio/Glô in the Dark, ac yna clasur arall, Ice Hockey Hair, cyn un arall o fy hoff ganeuon, Gwreiddiau Dwfn/Mawrth Oer Ar Y Blaned Neifion, a oedd yn cynnwys y fersiwn techno o gyfnod RATW (Rings Around The World), ac roedd yn bleser ei chlywed eto.

Roedd Slow Life yn uchafbwynt arall, gyda Gruff yn gwisgo helmet Power Rangers a chanu drwy'r llygaid.

Roedd y dorf yn fwy bywiog bellach, gyda mwy o glasuron yn cael eu chwarae fel Receptacle for the Respectable, gyda'r band yn croesi gitars ar y diwedd, a Mountain People, gafodd ei chwarae wedi i rywun o'r dorf ofyn yn daer am ei chlywed.

Disgrifiad o'r llun, Gruff yn canu drwy yr helmet Power Ranger

Cloi'r noson

Doedd 'na ddim syndod mai The Man Don't Give a F**k oedd yn cloi. Roedd fersiwn hir y gân yn ddiweddglo gwych i sioe ddwy awr yn llawn o'r hits cyfarwydd a chaneuon anhygoel eraill.

Yn bersonol, dwi ddim yn meddwl y byddai wedi bod yn bosib gwella'r setlist yma, oedd yn ymestyn dros yrfa'r band ac yn codi'r disgwyliadau a'r cyffro ar gyfer gweddill y daith. Maen nhw wedi addo chwarae nifer o ganeuon eraill yn ystod y gigs nesa.

Rwy'n gobeithio y bydd caneuon sydd ddim yn cael eu chwarae'n fyw yn aml fel Citizens Band a Mrs Spector yn cael sylw teilwng.