Â鶹ԼÅÄ

Ateb y Galw: Eleri Siôn

  • Cyhoeddwyd
eleri sion

Wythnos yma y cyflwynydd Eleri Siôn sy'n Ateb y Galw. Cafodd ei henwebu gan

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Un o'r atgofion cynhara' sy' gen i yw gwylio mam yn plingo cwningen yn y gegin. Roedd fy nhad yn rhoi maglau lawr i ddal y cwningod ar y fferm.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Ro'n i'n addoli Paul Young. Nes i weld e'n perfformio yn fyw yn yr NEC yn Birmingham pan o'n i'n 15 oed ac roedd gen i boster chwe troedfedd ar ddrws f'ystafell wely.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Gormod i'w rhestru a dim un yn addas i'w drafod!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Wythnos ddiwetha' ar ddiwedd y ffilm TOY STORY 3.

Disgrifiad o’r llun,

Pwy yw rhain, gohebwyr Camp Lawn?

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Nifer... yr un gwaetha'... cnoi f'ewinedd.

Dy hoff ddinas yn y byd?

Rwy'n dwli ar Rufain. Lle bynnag chi'n troi yn y ddinas mae 'na ryw slabyn o gelf, pensaernïaeth, hanes o'ch blaen chi.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Ar wahan i'r noson gwrddes i fy ngŵr i (!!!!!!!) y noson nes i roi genedigaeth i Alffi, hynny yw ar ôl yr oriau o bwsho!

Oes gen ti datŵ?

Na.

Beth yw dy hoff lyfr?

Pa bynnag un wi'n ddarllen ar y pryd, ac ar y pryd llyfr gan Caitlin Moran 'How to be a Woman'!!!!

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Bra.

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

Ffilm newydd Russell Crowe, 'The Water Diviner'.

Dy hoff albwm?

Albwm i ddathlu'r grŵp Texas yn 25 oed sef 'TEXAS 25'.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddi di'n ei ddewis?

Cwrs cynta - Parma ham ac asparagus, prif gwrs - spaghetti bolognese, pwdin - treiffl.

Disgrifiad o’r llun,

Sharleen Spiteri, cantores Texas. Falle y galla'i phartner, y cogydd Bryn Williams, baratoi Parma ham ac asparagus i Eleri wedi iddi hi ganu!

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Ffonio.

Pe taset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Fy ngŵr - fel mod i'n cael y cyfle i werthfawrogi pa mor anhygoel yw e i fyw gyda fi ( he he he!!!!!).

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Wynne Evans.

Disgrifiad o’r llun,

Cofiwch ymuno efo Eleri a thîm Camp Lawn ar Â鶹ԼÅÄ Radio Cymru b'nawn Sadwrn