Dwyn goleuadau glas ambiwlansys

Disgrifiad o'r llun, Llefarydd ar ran y gwasanaeth: 'Hyn yn anghyfrifol iawn'

Mae'r heddlu'n ymchwilio am fod lladron wedi dwyn goleuadau glas ochor dau ambiwlans yn ystod Gŵyl Banc y Pasg.

Roedd y ddau ambiwlans wedi eu parcio dros nos tu allan i orsaf ambiwlans Caernarfon.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans fod y drosedd "yn anghyfrifol iawn" ac y gallai beryglu bywydau.

"Oherwydd y dwyn doedd y ddau ambiwlans ddim yn gallu ymateb i alwadau, ar adeg pan oedd y gwasanaeth o dan bwysau."

Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio 101.