Â鶹ԼÅÄ

Etholiad 2017: Methodoleg y canllaw polisïau

  • Cyhoeddwyd

Mae'r canllaw i bolisïau'r pleidiau yn Etholiad 2017 wedi'i lunio gyda chymorth timau arbenigol y Â鶹ԼÅÄ, gan gynnwys yr Uned Ymchwil Gwleidyddol yn Llundain ac arbenigwyr yng Nghaerdydd, Glasgow a Belffast.

Sut gafodd y materion eu dewis a'u dethol?

Mae'r 10 maes polisi wedi'u selio ar Fynegai Materion Ipsos Mori, sy'n mesur y materion mae'r cyhoedd yn credu sydd bwysica'. Mae aelodau'r cyhoedd yn cael eu holi, gyda'r cwestiynau'n anelu am atebion gwirfoddol yn y fan a'r lle, sy'n golygu nad yw'r cyfranwyr yn cael eu hannog i ddewis o restr o bynciau sydd wedi'u dewis yn barod.

Ble mae pynciau'n gor-gyffwrdd, maen nhw wedi'u grwpio gyda'i gilydd i gadw pethau'n syml, e.e. mae 'Chwyddiant/prisiau' a 'Diweithdra' wedi'u grwpio dan y pennawd 'Economi'.

Roedd y materion mwya' poblogaidd wedyn yn cael eu dewis ar sail y cyfanswm sgoriau dros y 12 mis cyn Ebrill 2017. Roedd rhai materion, fel 'materion gwledig' ac 'y cyfansoddiad' wedi'u hychwanegu ar sail egwyddor olygyddol er mwyn cyflawni amcanion gwasanaeth cyhoeddus y Â鶹ԼÅÄ.

Mae pynciau wedi'u gosod yn y canllaw ar sail cyfanswm eu sgôr pwysigrwydd, o'r mwya' i'r lleia' pwysig.

Sut mae'r pleidiau wedi'u dewis a'u dethol?

Mae unrhyw blaid sydd wedi'i chynrychioli gan o leia' un AS yn ystod cyfnod Senedd 2015-2017, ac sydd ag ymgeiswyr yng Nghymru yn 2017, wedi'i chynrychioli yn y canllaw.

Mae'r pleidiau wedi'u gosod yn nhrefn nifer y seddi sydd ganddyn nhw yn San Steffan (ac yna yn nhrefn y wyddor os ydyn nhw'n gyfartal).

Mae'r pleidiau gwleidyddol mwy sydd ag ymgeiswyr yng Nghymru wedi'u cynnwys hefyd, yn ogystal â phleidiau ble mae tystiolaeth o gefnogaeth wleidyddol sylweddol.

Sut mae'r polisïau'n cael eu dewis a'u crynhoi?

Mae hon yn broses olygyddol dan ofal newyddiadurwyr y Â鶹ԼÅÄ, sy'n ymgynghori gyda phleidiau pan fod angen. Er nad yw nifer o'r pleidiau wedi cyhoeddi eu maniffestos erbyn dechrau swyddogol yr ymgyrch etholiadol, ar 30 Mawrth, maen nhw'n aml wedi datgelu eu polisïau'n glir mewn datganiadau cyhoeddus.

Beth am y materion sydd wedi'u datganoli o senedd y DU i'r cynulliad cenedlaethol?

Oherwydd datganoli, dim ond grym cyfyngedig, os o gwbl, sydd gan senedd y DU i ddeddfu mewn rhai meysydd sydd yn y canllaw. Er enghraifft, mae 'iechyd' wedi'i ddatganoli i Gymru, felly fydd pleidleiswyr yng Nghymru ddim yn gweld canlyniadau polisïau iechyd San Steffan. Ond mae rhai pleidiau wedi bod yn ymgyrchu yn lleol ar y materion datganoledig hyn wrth arwain at yr etholiad, ac fe allai pleidleiswyr gael eu dylanwadu gan safbwynt y pleidiau hyn. Mewn achosion o'r fath, mae'r canllaw yn gwahaniaethu rhwng polisïau canolog a "safbwyntiau ymgyrch".