Graffiti ar wal 'Cofiwch Dryweryn'

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y slogan "Cofiwch Dryweryn" ei ysgrifennu yn fuan wedi i'r pentref ger Y Bala gael ei foddi yn 1965

Mae graffiti wedi cael ei sgwennu ar y wal adnabyddus yng Ngheredigion sydd a'r slogan 'Cofiwch Dryweryn'.

Nid dyma'r tro cyntaf i graffiti gael ei adael ar y wal yn Llanrhystud ar yr A487 rhwng Aberystwyth ac Aberteifi.

Yn 2010 cafodd y wal ei ail phaentio gyda'r slogan gwreiddiol, a hynny oherwydd bod graffiti wedi ei adael.

Mae'r slogan 'Cofiwch Dryweryn' yn cyfeirio at foddi pentref Capel Celyn 50 mlynedd yn ôl er mwyn darparu dŵr i ddinas Lerpwl.

Yn y gorffennol bu apêl er mwyn codi arian i brynu'r wal a diogelu ei chyflwr.

Mae'r cyngor cymuned yn Llanrhystud hefyd wedi dweud eu bod am weld y wal a'r slogan gwreiddiol yn cael eu diogelu.